RHAN 9DARPARIAETHAU CYFFREDINOL
Cyffredinol
144Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.
(1)
Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth sydd ynddi, cânt, drwy reoliadau, wneud—
(a)
darpariaeth atodol, ddeilliadol neu ganlyniadol;
(b)
darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a geir yn y Ddeddf hon).