RHAN 9DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Cyffredinol

143Dehongli cyffredinol

(1)

Yn y Ddeddf hon—

mae i “adeilad” yr ystyr a roddir i “building” gan adran 336(1) o DCGTh 1990;

mae i “adeiladu”, mewn perthynas â hynny o orsaf gynhyrchu sy’n weithfeydd ynni adnewyddadwy, neu sydd i fod yn weithfeydd ynni adnewyddadwy, yr un ystyr ag a roddir i “construction” ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) (gweler adran 104 o’r Ddeddf honno) (a rhaid darllen ymadroddion perthynol yn unol â hynny); ac yn y diffiniad hwn mae i “gweithfa ynni adnewyddadwy” yr un ystyr ag a roddir i “renewable energy installation” ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) (gweler adran 104 o’r Ddeddf honno);

mae i “adroddiad ar yr effaith leol” (“local impact report”) yr ystyr a roddir gan adran 36(4);

mae i “adroddiad effaith ar y môr” (“marine impact report”) yr ystyr a roddir gan adran 37(4);

rhaid i “addasu” (“alteration”), mewn perthynas â maes awyr, gael ei ddarllen yn unol ag adran 11(4);

mae “addasu” (“alteration”), mewn perthynas â phriffordd, yn cynnwys cau’r briffordd neu ei dargyfeirio, ei gwella, ei chodi neu ei gostwng;

ystyr “ardal forol Cymru” (“Welsh marine area”) yw’r môr sy’n gyfagos i Gymru hyd at derfyn atfor y môr tiriogaethol; ac mae’r cwestiwn ynghylch pa rannau o’r môr sy’n gyfagos i Gymru i’w benderfynu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672);

mae i “awdurdod archwilio” (“examining authority”) yr ystyr a roddir gan adran 40(7);

ystyr “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yw unrhyw berson sydd ag unrhyw swyddogaeth o natur gyhoeddus;

mae i “awdurdod Cymreig datganoledig” yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

ystyr “awdurdod cynllunio” (“planning authority”) yw awdurdod cynllunio lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ran 1 o DCGTh 1990 ar gyfer ardal yng Nghymru;

mae i “awdurdod priffyrdd” yr un ystyr ag a roddir i “highway authority” yn Neddf Priffyrdd 1980 (p. 66) (gweler adrannau 1 i 3 o’r Ddeddf honno);

ystyr “caniatâd cynllunio” (“planning permission”) yw caniatâd o dan Ran 3 o DCGTh 1990;

ystyr “cefnffordd” (“trunk road”) yw priffordd sy’n gefnffordd yn rhinwedd—

(a)

adran 10(1) neu 19 o Ddeddf Priffyrdd 1980,

(b)

gorchymyn neu gyfarwyddyd o dan adran 10 o’r Ddeddf honno, neu

(c)

gorchymyn cydsyniad seilwaith,

neu o dan unrhyw ddeddfiad arall;

ystyr “cydsyniad adran 20” (“section 20 consent”) yw caniatâd, awdurdodiad, cydsyniad, gorchymyn neu gynllun a grybwyllir yn adran 20 (effaith gofyniad am gydsyniad seilwaith ar gyfundrefnau cydsynio eraill);

ystyr “cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent”) yw’r cydsyniad sy’n ofynnol gan adran 19;

rhaid darllen “cyfleuster LNG” (“LNG facility”) yn unol ag adran 3;

ystyr “cyfnewidfa nwyddau rheilffordd” (“rail freight interchange”) yw cyfleuster i drosglwyddo nwyddau rhwng rheilffordd a ffordd, neu rhwng rheilffordd a math arall o drafnidiaeth;

ystyr “Cymru” (“Wales”) yw ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70));

mae i “datblygiad” (“development”) yr ystyr a roddir gan adran 133;

mae i “datganiad polisi seilwaith” (“infrastructure policy statement”) yr ystyr a roddir gan adran 127(2);

ystyr “DCGTh 1990” (“TCPA 1990”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);

mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys unrhyw ddeddfiad pryd bynnag y caiff ei basio neu y’i gwneir;

mae i “defnyddio” yr ystyr a roddir i “use” gan adran 336(1) o DCGTh 1990;

mae i “estyniad”, mewn perthynas â gorsaf gynhyrchu, yr ystyr a roddir i “extension” gan adran 36(9) o Ddeddf Trydan 1989 (a rhaid darllen “estyn” yn unol â hynny);

ystyr “ffordd arbennig” (“special road”) yw priffordd sy’n ffordd arbennig yn unol ag adran 16 o Ddeddf Priffyrdd 1980 neu yn rhinwedd gorchymyn cydsyniad seilwaith;

ystyr “gorchymyn cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent order”) yw gorchymyn a wneir o dan y Ddeddf hon sy’n rhoi cydsyniad seilwaith;

mae i “gorsaf gynhyrchu” yr un ystyr ag a roddir i “generating station” yn Rhan 1 o Ddeddf Trydan 1989 (gweler adran 64(1) o’r Ddeddf honno);

mae “gwasanaethau cyn gwneud cais” (“pre-application services”) i’w ddehongli yn unol ag adran 27(2);

ystyr “gweithdrefn arbennig y Senedd” (“special Senedd procedure”) yw’r weithdrefn a bennir yn rheolau sefydlog Senedd Cymru ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd;

mae i “gwella”, mewn perthynas â phriffordd, yr ystyr a roddir i “improvement” gan adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980;

mae i “harbwr” ac “awdurdod harbwr” yr ystyron a roddir i “harbour” a “harbour authority” gan adran 57(1) o Ddeddf Harbyrau 1964 (p. 40);

mae i “heneb” (“monument”) yr un ystyr ag yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (dsc 3) (gweler adran 2 o’r Ddeddf honno);

mae i “llinell drydan” yr un ystyr ag a roddir i “electric line” yn Rhan 1 o Ddeddf Trydan 1989 (p. 29) (gweler adran 64(1) o’r Ddeddf honno);

mae i “maes awyr” yr ystyr a roddir i “airport” gan adran 82(1) o Ddeddf Meysydd Awyr 1986 (p. 31);

mae “mwynau” (“minerals”) yn cynnwys yr holl sylweddau sy’n cael eu gweithio i’w symud ymaith fel arfer (gan gynnwys yn y môr);

mae “nwy” (“gas”) yn cynnwys nwy naturiol;

ystyr “nwy naturiol” (“natural gas”) yw unrhyw nwy sy’n deillio o strata naturiol (gan gynnwys nwy sy’n dod o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig);

mae i “nwyddau” yr ystyr a roddir i “goods” gan adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (p. 43);

mae i “priffordd” yr ystyr a roddir i “highway” gan adran 328 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66);

mae i “prosiect seilwaith arwyddocaol” (“significant infrastructure project”) yr ystyr a roddir gan Ran 1;

mae i “rheilffordd” yr ystyr a roddir i “railway” gan adran 67(1) o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42);

ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “safonol” (“standard”), mewn perthynas â chyfaint nwy, yw cyfaint nwy ar bwysedd o 101.325 ciloPascal a thymheredd o 273 Kelvin;

mae “tir” (“land”) yn cynnwys adeiladau, henebion a thir sydd wedi ei orchuddio â dyfroedd (gan gynnwys gwely’r môr); ac mewn perthynas â Rhan 6 (gorchmynion cydsyniad seilwaith) rhaid ei ddarllen yn unol ag adran 102;

mae i “tir y Goron” (“Crown land”) yr ystyr a roddir gan adran 134.

(2)

Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at hawl dros dir yn cynnwys—

(a)

cyfeiriad at yr hawl i wneud, neu i osod a chynnal a chadw, unrhyw beth yn y tir, arno neu odano, neu yn y gofod awyr uwchben ei arwyneb;

(b)

cyfeiriad at gyfamod cyfyngol.

(3)

Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at gaffael tir, fel y mae’n gymwys i hawl dros dir, a chyfeiriad at gaffael hawl dros dir yn cynnwys—

(a)

caffael yr hawl drwy greu hawl newydd yn ogystal â thrwy gaffael un bresennol;

(b)

gosod cyfamod cyfyngol.

(4)

Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at y môr yn cynnwys gwely ac isbridd y môr.