RHAN 9DARPARIAETHAU CYFFREDINOL
Cyffredinol
141Rheoliadau: y weithdrefn
(1)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.
(2)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—
(a)
darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol;
(b)
darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(3)
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo oni fo drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(4)
Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—
(a)
adran 17;
(b)
adran 21;
(c)
adran 22(2)(c);
(d)
adran 55(1);
(e)
adran 58(3);
(f)
adran 59(6);
(g)
adran 63(5);
(h)
adran 124;
(i)
adran 130;
(j)
adran 131;
(k)
adran 132;
(l)
adran 144, ond dim ond pan fo’r rheoliadau yn diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu Ddeddf neu Fesur gan Senedd Cymru;
(m)
paragraff 2(1) o Atodlen 2.
(5)
Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.