RHAN 9DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Cyffredinol

140Rheoliadau a gorchmynion: cyfyngiadau

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys i—

(a)

rheoliadau o dan adran 30, adran 34, adran 35, adran 48(6), adran 63(5), adran 91(3), adran 124 ac adran 129;

(b)

gorchmynion cydsyniad seilwaith a gorchmynion o dan adran 90.

(2)

Caiff rheoliadau a gorchmynion—

(a)

cynnwys darpariaeth y byddai cydsyniad y Gweinidog priodol yn ofynnol ar ei chyfer o dan baragraff 8(1)(a) neu (c), 10 neu 11 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) pe bai’r ddarpariaeth wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru;

(b)

cynnwys darpariaeth y byddai’n ofynnol ymgynghori â’r Gweinidog priodol yn ei chylch o dan baragraff 11(2) o Atodlen 7B i’r Ddeddf honno pe bai’r ddarpariaeth wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru.

(3)

Ni chaiff rheoliadau a gorchmynion o dan y Ddeddf hon, ac eithrio rheoliadau a gorchmynion y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt i’r graddau y maent yn gwneud darpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)—

(a)

cynnwys darpariaeth y byddai cydsyniad y Gweinidog priodol yn ofynnol ar ei chyfer o dan baragraff 8, 10 neu 11 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 pe bai’r ddarpariaeth wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru;

(b)

cynnwys darpariaeth y byddai’n ofynnol ymgynghori â’r Gweinidog priodol yn ei chylch o dan baragraff 11(2) neu (2A) o Atodlen 7B i’r Ddeddf honno pe bai’r ddarpariaeth wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru.

(4)

Yn yr adran hon, mae i “Gweinidog priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate Minister” gan baragraff 8(5) o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.