RHAN 9DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Cyffredinol

139Dyletswyddau i gyhoeddi

(1)

Pan fo’r Ddeddf hon yn gosod dyletswydd i gyhoeddi rhywbeth, rhaid iddo gael ei gyhoeddi ar ffurf electronig.

(2)

Pan fo gan y person wefan, mae’r ddyletswydd i gyhoeddi ar ffurf electronig yn ddyletswydd i gyhoeddi ar y wefan honno.

(3)

Nid oes unrhyw beth yn yr adran hon yn rhwystro’r person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd rhag cyhoeddi mewn modd arall yn ogystal â chyhoeddi ar ffurf electronig.