RHAN 9DARPARIAETHAU CYFFREDINOL
Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill
138Cyflwyno dogfennau i’r Goron
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth a gynhwysir yn y Ddeddf hon neu a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad neu ddogfen arall gael ei roi neu ei rhoi i’r Goron.
(2)
Rhaid rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen arall i awdurdod priodol y Goron.
(3)
Nid yw adrannau 136 na 137 (darpariaethau cyffredinol ynghylch dulliau cyflwyno) yn gymwys.
(4)
Yn yr adran hon, mae “y Goron” yn cynnwys—
(a)
Dugiaeth Caerhirfryn;
(b)
Dugiaeth Cernyw.