RHAN 9DARPARIAETHAU CYFFREDINOL
Troseddau
135Troseddau gan gyrff corfforedig
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i drosedd o dan adrannau 28, 103, 104, 112 a 120.
(2)
Pan gyflawnir y drosedd gan gorff corfforedig a phan brofir ei bod wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—
(a)
uwch-swyddog i’r corff, neu
(b)
person a oedd yn honni ei fod yn uwch-swyddog i’r corff,
mae’r uwch-swyddog neu’r person (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd, ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(3)
Yn yr adran hon, ystyr “uwch-swyddog” yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.
(4)
Ond yn achos corff corfforedig y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, ystyr “cyfarwyddwr” yw aelod o’r corff.