RHAN 8SWYDDOGAETHAU ATODOL
Cyfarwyddydau Gweinidogion Cymru
131Pŵer i ddatgymhwyso gofynion
(1)
Caiff rheoliadau ddarparu pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo nad yw gofynion a osodir gan y Ddeddf hon, odani neu yn ei rhinwedd yn gymwys mewn achos a bennir yn y cyfarwyddyd.
(2)
Mewn perthynas â’r rheoliadau—
(a)
rhaid iddynt bennu’r gofynion y caniateir eu datgymhwyso gan gyfarwyddyd;
(b)
rhaid iddynt ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud cyfarwyddyd—
(i)
cyhoeddi’r cyfarwyddyd, a
(ii)
gosod datganiad ynghylch y cyfarwyddyd gerbron Senedd Cymru yn egluro ei effaith a pham y’i gwnaed;
(c)
cânt awdurdodi cyfarwyddydau i fod yn gymwys mewn achos penodol neu i achosion yn gyffredinol.