RHAN 8SWYDDOGAETHAU ATODOL
Cyfarwyddydau Gweinidogion Cymru
130Cyfarwyddydau i awdurdodau cyhoeddus
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus y mae’r adran hon yn gymwys iddo wneud pethau mewn perthynas â chais a wneir i Weinidogion Cymru.
(2)
Mae’r adran hon yn gymwys i’r awdurdodau cyhoeddus a ganlyn—
(a)
awdurdod cynllunio;
(b)
Cyfoeth Naturiol Cymru;
(c)
awdurdod Cymreig datganoledig a bennir mewn rheoliadau.
(3)
Caiff cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—
(a)
ymwneud â chais penodol neu ddisgrifiad o gais, neu geisiadau yn gyffredinol;
(b)
cael ei roi i awdurdod cyhoeddus penodol neu ddisgrifiad o awdurdod cyhoeddus neu i awdurdodau cyhoeddus yn gyffredinol.
(4)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer adennill costau, ac mewn cysylltiad ag adennill costau, y mae awdurdodau cyhoeddus wedi mynd iddynt am bethau a wneir yn unol â chyfarwyddydau o dan yr adran hon.