RHAN 8SWYDDOGAETHAU ATODOL
Ymgyngoreion statudol
129Pŵer i ymgynghori a dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod archwilio ymgynghori ag awdurdod cyhoeddus a bennir mewn rheoliadau ynghylch cais dilys am gydsyniad seilwaith.
(2)
Rhaid i’r awdurdod cyhoeddus yr ymgynghorir ag ef roi ymateb o sylwedd.
(3)
Rhaid rhoi’r ymateb hwnnw cyn diwedd—
(a)
cyfnod a bennir mewn rheoliadau, neu
(b)
os yw’r awdurdod a Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod archwilio (yn ôl y digwydd) yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig, pa gyfnod bynnag a bennir yn eu cytundeb.
(4)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—
(a)
ynghylch gwybodaeth sydd i’w darparu gan Weinidogion Cymru neu awdurdod archwilio i awdurdod at ddibenion ymgynghoriad o dan is-adran (1);
(b)
ynghylch gofynion ymateb o sylwedd;
(c)
yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod yr ymgynghorir ag ef o dan is-adran (1) roi adroddiad i Weinidogion Cymru ynghylch cydymffurfedd yr awdurdod ag is-adran (2) (gan gynnwys darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys yr adroddiad, a phryd y mae i’w wneud).