RHAN 8SWYDDOGAETHAU ATODOL

Cofrestr o geisiadau a gwasanaethau cyn gwneud cais

128Cofrestr o geisiadau a gwasanaethau cyn gwneud cais

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o—

(a)

ceisiadau am gydsyniad seilwaith y maent wedi eu cael;

(b)

ceisiadau am wasanaethau cyn gwneud cais y maent wedi eu cael;

(c)

gwasanaethau cyn gwneud cais y maent wedi eu darparu.

(2)

Os yw Gweinidogion Cymru yn cael cais dilys am gydsyniad seilwaith, rhaid iddynt beri bod manylion y cais yn cael eu cofnodi ar y gofrestr.

(3)

Os yw Gweinidogion Cymru yn cael cais am wasanaethau cyn gwneud cais, rhaid iddynt beri bod manylion y cais yn cael eu cofnodi ar y gofrestr.

(4)

Os yw Gweinidogion Cymru yn darparu gwasanaethau cyn gwneud cais, rhaid iddynt beri bod manylion y gwasanaethau a ddarparwyd yn cael eu cofnodi ar y gofrestr.

(5)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r gofrestr.

(6)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ei gwneud yn ofynnol,‍ neu mewn cysylltiad â’i gwneud yn ofynnol, i bob awdurdod cynllunio gynnal cofrestr o—

(a)

ceisiadau am gydsyniad seilwaith y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cael ar gyfer datblygiad sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn ardal yr awdurdod cynllunio;

(b)

ceisiadau am wasanaethau cyn gwneud cais y mae’r awdurdod cynllunio wedi eu cael;

(c)

gwasanaethau cyn gwneud cais a ddarparwyd gan yr awdurdod cynllunio.

(7)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ei gwneud yn ofynnol, neu mewn cysylltiad â’i gwneud yn ofynnol, i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnal cofrestr o—

(a)

ceisiadau am wasanaethau cyn gwneud cais y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi eu cael;

(b)

gwasanaethau cyn gwneud cais a ddarparwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

(8)

Caiff rheoliadau, mewn perthynas â chofrestr y mae’n ofynnol ei chynnal gan yr adran hon neu odani, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

ffurf a chynnwys cofrestr;

(b)

galluogi’r cyhoedd i weld dogfennau sy’n ymwneud â chofnodion ar y gofrestr, gan gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r dogfennau gael eu hadneuo, eu storio a bod ar gael i edrych arnynt fel cyfleuster o’r gofrestr;

(c)

amseriad ychwanegu cofnodion at y gofrestr.