RHAN 8SWYDDOGAETHAU ATODOL
Ffioedd
124Ffioedd am gyflawni swyddogaethau a darparu gwasanaethau cydsyniad seilwaith
(1)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer codi ffioedd ac mewn cysylltiad â chodi ffioedd gan—
(a)
awdurdod cyhoeddus penodedig am gyflawni swyddogaeth cydsyniad seilwaith;
(b)
awdurdod cyhoeddus penodedig am ddarparu gwasanaeth cydsyniad seilwaith.
(2)
Ystyr “swyddogaeth cydsyniad seilwaith” yw swyddogaeth a roddir gan y Ddeddf hon, odani neu yn ei rhinwedd.
(3)
Ystyr “gwasanaeth cydsyniad seilwaith” yw unrhyw gyngor, gwybodaeth neu gymorth arall (gan gynnwys ymateb i ymgynghoriad neu gymryd rhan mewn archwiliad o gais drwy lunio cyflwyniad ysgrifenedig, bod yn bresennol neu roi tystiolaeth mewn gwrandawiad neu fod yn bresennol neu roi tystiolaeth mewn ymchwiliad lleol) a ddarperir mewn cysylltiad ag—
(a)
cais neu gais arfaethedig—
(i)
am gydsyniad seilwaith, neu
(ii)
i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith, neu
(b)
unrhyw fater penodedig arall sy’n ymwneud â phrosiectau seilwaith arwyddocaol.
(4)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
pryd y caniateir, a phryd na chaniateir, codi ffi (gan gynnwys ffi atodol);
(b)
y swm y caniateir ei godi (gan gynnwys darpariaeth sy’n pennu’r swm neu ddarpariaeth sy’n rhoi pŵer i bennu’r swm);
(c)
yr hyn y caniateir, a’r hyn na chaniateir, ei ystyried wrth gyfrifo’r swm a godir;
(d)
pwy sy’n agored i dalu ffi a godir;
(e)
i bwy y telir ffioedd;
(f)
pryd y mae ffi a godir yn daladwy;
(g)
adennill ffioedd a godir;
(h)
ildio, lleihau neu ad-dalu ffioedd;
(i)
effaith talu neu fethu â thalu ffioedd a godir (gan gynnwys darpariaeth sy’n caniatáu i awdurdod cyhoeddus a bennir o dan is-adran (1) beidio â gwneud rhywbeth y byddai’n ofynnol i’r awdurdod ei wneud fel arall o dan ddeddfiad hyd nes y telir unrhyw ffioedd sydd heb eu talu am ei wneud);
(j)
trosglwyddo ffioedd sy’n daladwy i un person i berson arall;
(k)
cyflenwi neu gyhoeddi gwybodaeth at unrhyw un neu ragor o ddibenion y rheoliadau.
(5)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) roi swyddogaeth, gan gynnwys swyddogaeth sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn, i unrhyw berson.
(6)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(a) ddarparu bod symiau ffioedd i’w cyfrifo drwy gyfeirio at y costau yr eir iddynt—
(a)
wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth cydsyniad seilwaith, a
(b)
wrth wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso cyflawni unrhyw swyddogaeth cydsyniad seilwaith, neu sy’n ffafriol neu’n ddeilliadol i’w chyflawni.
(7)
Yn yr adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau.