RHAN 7GORFODI

Hysbysiadau stop dros dro

122Gwaharddeb i atal gweithgarwch gwaharddedig

(1)

Caiff awdurdod cynllunio wneud cais i’r Uchel Lys neu’r llys sirol am waharddeb sy’n atal gweithgarwch gwirioneddol neu ddisgwyliedig sy’n drosedd o dan adran 103 neu 104 mewn perthynas â thir yn ardal yr awdurdod cynllunio.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i’r Uchel Lys neu’r llys sirol am waharddeb sy’n atal gweithgarwch gwirioneddol neu ddisgwyliedig sy’n drosedd o dan adran 103 neu 104 mewn perthynas â thir yng Nghymru.

(3)

Ar gais o dan yr adran hon caiff y llys roi gwaharddeb ar unrhyw delerau y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben atal y gweithgarwch.

(4)

Ni chaniateir dyroddi gwaharddeb o dan yr adran hon yn erbyn y Goron.