RHAN 7GORFODI

Hysbysiadau stop dros dro

121Digollediad am golled o ganlyniad i hysbysiad

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)

gweithgarwch a bennir mewn hysbysiad stop dros dro, ar yr adeg y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith, wedi ei awdurdodi drwy orchymyn cydsyniad seilwaith a roddwyd cyn y dyddiad y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith, neu

(b)

awdurdod cynllunio perthnasol yn tynnu’n ôl hysbysiad stop dros dro ar ôl iddo gymryd effaith.

(2)

Nid yw’r adran hon yn gymwys yn rhinwedd is-adran (1)(b) pan fo—

(a)

gweithgarwch a bennir yn yr hysbysiad stop dros dro wedi ei awdurdodi drwy orchymyn cydsyniad seilwaith a roddir ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith neu ar ôl hynny, neu

(b)

yr awdurdod cynllunio yn tynnu’r hysbysiad yn ôl ar ôl i’r cydsyniad hwnnw gael ei roi.

(3)

Mae gan unrhyw berson a chanddo fuddiant yn y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i’r awdurdod cynllunio perthnasol, i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i effaith yr hysbysiad.

(4)

Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir drwy gymryd camau sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad.

(5)

Nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon mewn cysylltiad â gwahardd gweithgarwch sydd, ar unrhyw adeg y mae’r hysbysiad stop dros dro yn cael effaith, yn drosedd neu’n cyfrannu at drosedd o adan 103 neu 104.

(6)

Nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon am golled neu ddifrod y gallai’r hawlydd fod wedi ei hosgoi neu ei osgoi drwy—

(a)

darparu gwybodaeth yr oedd hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod cynllunio o dan adran 111 o’r Ddeddf hon neu adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p. 57) yn ei gwneud yn ofynnol i’r hawlydd ei darparu, neu

(b)

cydweithredu â’r awdurdod cynllunio mewn unrhyw ffordd arall wrth ymateb i’r hysbysiad.

(7)

Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 12 mis sy’n dechrau—

(a)

mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1)(a) ond nid o fewn is-adran (1)(b), â’r diwrnod y mae’r hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith;

(b)

mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1)(b), â’r diwrnod y mae’r hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.