RHAN 1PROSIECTAU SEILWAITH ARWYDDOCAOL
Dŵr
12Argaeau a chronfeydd dŵr
Mae’r mathau o ddatblygiad a ganlyn yn brosiectau seilwaith arwyddocaol—
(a)
adeiladu argae neu gronfa ddŵr yng Nghymru os yw cyfaint disgwyliedig y dŵr a gedwir yn ôl gan yr argae neu a gaiff ei storio yn y gronfa ddŵr yn fwy na 10 miliwn o fetrau ciwbig;
(b)
addasu argae neu gronfa ddŵr yng Nghymru os yw cyfaint ychwanegol disgwyliedig y dŵr a gedwir yn ôl gan yr argae neu a gaiff ei storio yn y gronfa ddŵr o ganlyniad i’r addasiad yn fwy na 10 miliwn o fetrau ciwbig.