RHAN 7GORFODI
Hysbysiadau stop dros dro
118Cyfyngiadau ar bŵer i ddyroddi hysbysiad stop dros dro
(1)
Ni chaiff hysbysiad stop dros dro wahardd—
(a)
defnyddio adeilad fel annedd, na
(b)
cynnal gweithgarwch o fath, neu o dan amgylchiadau, a bennir mewn rheoliadau.
(2)
Ni chaiff hysbysiad stop dros dro wahardd cynnal gweithgarwch sydd wedi ei gynnal (boed hynny’n ddi-dor ai peidio) am o leiaf 4 blynedd cyn y diwrnod yr arddangosir copi o’r hysbysiad yn unol ag adran 117 am y tro cyntaf.
(3)
Nid yw is-adran (2) yn atal hysbysiad stop dros dro rhag gwahardd—
(a)
gweithgarwch sy’n weithrediadau adeiladu, peiriannu neu fwyngloddio neu’n weithrediadau eraill, neu sy’n ddeilliadol i hynny, na
(b)
gwaredu gwastraff.