RHAN 7GORFODI

Hysbysiadau stop dros dro

117Pŵer i ddyroddi hysbysiad stop dros dro

(1)

Caiff awdurdod cynllunio perthnasol ddyroddi hysbysiad stop dros dro os yw’n ystyried—

(a)

bod gweithgarwch wedi cael ei gynnal neu yn cael ei gynnal mewn perthynas â thir yn ei ardal sy’n drosedd o dan adran 103 neu 104, a

(b)

y dylai’r gweithgarwch (neu unrhyw ran o’r gweithgarwch hwnnw) gael ei stopio ar unwaith.

(2)

Rhaid i hysbysiad stop dros dro—

(a)

pennu’r gweithgarwch y mae’r awdurdod cynllunio yn ystyried ei fod yn drosedd,

(b)

gwahardd cynnal y gweithgarwch (neu ba ran bynnag o’r gweithgarwch a bennir yn yr hysbysiad),

(c)

nodi rhesymau’r awdurdod dros ddyroddi’r hysbysiad, a

(d)

datgan effaith adran 120 (y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro).

(3)

Rhaid i’r awdurdod cynllunio arddangos copi o’r hysbysiad stop dros dro ar y tir y mae’n ymwneud ag ef; a rhaid i’r copi bennu’r dyddiad y caiff ei arddangos am y tro cyntaf.

(4)

Ond os nad yw’n rhesymol ymarferol arddangos copi o’r hysbysiad ar y tir, caiff yr awdurdod cynllunio, yn lle hynny, arddangos copi mewn man amlwg mor agos i’r tir ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(5)

Caiff yr awdurdod cynllunio gyflwyno copi o hysbysiad stop dros dro i unrhyw berson y mae’r awdurdod yn ystyried—

(a)

ei fod yn cynnal y gweithgarwch y mae’r hysbysiad yn ei wahardd,

(b)

ei fod yn feddiannydd ar y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef,

(c)

bod ganddo fuddiant yn y tir, neu

(d)

ei fod yn berson sy’n cael budd o orchymyn cydsyniad seilwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.