RHAN 7GORFODI

Cydymffurfio â hysbysiadau datblygiad anawdurdodedig

114Gorchymyn i ganiatáu camau sy’n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig

(1)

Caiff perchennog tir wneud cais drwy gŵyn i lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson arall a chanddo fuddiant yn y tir ganiatáu i’r perchennog gymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig.

(2)

Caiff y llys wneud gorchymyn o’r fath os yw wedi ei fodloni bod y person arall yn atal y perchennog rhag cymryd camau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad.