RHAN 7GORFODI

Hysbysiadau gwybodaeth

111Pŵer i wneud gwybodaeth yn ofynnol

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)

yr awdurdod cynllunio perthnasol yn ystyried y gallai trosedd o dan adran 103 neu 104 fod wedi ei chyflawni ar y tir neu mewn cysylltiad â’r tir yn ei ardal;

(b)

Gweinidogion Cymru yn ystyried y gallai trosedd o dan adran 103 neu 104 fod wedi ei chyflawni ar dir yng Nghymru neu mewn cysylltiad â thir yng Nghymru;

(c)

Gweinidogion Cymru yn ystyried y gallai trosedd o dan adran 103 neu 104 fod wedi ei chyflawni yn ardal forol Cymru neu mewn cysylltiad ag ardal forol Cymru.

(2)

Caiff yr awdurdod cynllunio perthnasol gyflwyno hysbysiad gwybodaeth i unrhyw berson—

(a)

sy’n berchen ar y tir neu’n ei feddiannu neu sydd ag unrhyw fuddiant arall ynddo, neu

(b)

sy’n cynnal gweithrediadau ar y tir neu sy’n ei ddefnyddio at unrhyw ddiben.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad gwybodaeth i unrhyw berson—

(a)

sy’n berchen ar y tir neu’n ei feddiannu neu sydd ag unrhyw fuddiant arall ynddo,

(b)

sy’n cynnal gweithrediadau ar y tir neu sy’n ei ddefnyddio at unrhyw ddiben, neu

(c)

sy’n cynnal gweithrediadau yn ardal forol Cymru.

(4)

Rhaid i’r hysbysiad gwybodaeth—

(a)

pennu’r materion y mae’r awdurdod cynllunio, neu Weinidogion Cymru, yn ystyried y gallent fod yn drosedd, a

(b)

ei gwneud yn ofynnol i’r person y’i cyflwynir iddo (“y derbynnydd”) roi’r wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, i’r graddau y bo’r derbynnydd yn gallu gwneud hynny.

(5)

Yr wybodaeth y caniateir ei phennu yn yr hysbysiad yw gwybodaeth ynghylch—

(a)

unrhyw weithrediadau sy’n cael eu cynnal,

(b)

unrhyw ddefnydd o dir,

(c)

unrhyw weithgareddau eraill sy’n cael eu cynnal, a

(d)

unrhyw fater sy’n ymwneud â darpariaethau gorchymyn cydsyniad seilwaith.

(6)

Rhaid i hysbysiad gwybodaeth hysbysu’r person y’i cyflwynir iddo am ganlyniadau tebygol methu ag ymateb i’r hysbysiad ac, yn benodol, y gellir cymryd camau gorfodi.

(7)

Rhaid i dderbynnydd hysbysiad gwybodaeth gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad drwy roi’r wybodaeth ofynnol yn ysgrifenedig i’r awdurdod cynllunio perthnasol, neu os rhoddwyd yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru, i Weinidogion Cymru.