RHAN 7GORFODI

Troseddau

108Hawliau mynediad: darpariaethau atodol

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gan berson bŵer i fynd ar dir a roddir gan adran 106 neu drwy warant o dan adran 107.

(2)

Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol berson sy’n arfer y pŵer mynediad yn cyflawni trosedd.

(3)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(4)

Os difrodir tir neu eiddo arall wrth arfer y pŵer mynediad, caiff person sy’n dioddef y difrod adennill digollediad oddi wrth yr awdurdod cynllunio a awdurdododd y mynediad neu (yn ôl y digwydd) Weinidogion Cymru os hwy a awdurdododd y mynediad.

(5)

Rhaid gwneud hawliad am ddigollediad o dan is-adran (4) yn ysgrifenedig o fewn 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yr achoswyd y difrod (neu os achoswyd y difrod dros fwy nag un diwrnod, y diwrnod olaf y’i hachoswyd).

(6)

Mae unrhyw gwestiwn o ran anghydfod ynghylch digollediad o dan is-adran (4) i’w atgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys ac i’w benderfynu ganddo.

(7)

Mae adran 4 o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (p. 33) (costau) yn gymwys i benderfynu cwestiwn a atgyfeirir o dan is-adran (6) fel y mae’n gymwys i benderfynu cwestiwn o dan adran 1 o’r Ddeddf honno, ond fel pe bai cyfeiriadau at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person y gwneir hawliad am ddigollediad oddi wrtho.