RHAN 7GORFODI

Troseddau

105Terfynau amser

(1)

Ni chaniateir i berson gael ei gyhuddo o drosedd o dan adran 103 na 104 ar ôl diwedd—

(a)

y cyfnod o 4 blynedd perthnasol, neu

(b)

os yw is-adran (3) yn gymwys, y cyfnod estynedig.

(2)

Ystyr “y cyfnod o 4 blynedd perthnasol” yw—

(a)

yn achos trosedd o dan adran 103, y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd y datblygiad i raddau helaeth;

(b)

yn achos trosedd o dan adran 104, y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diweddaraf o’r canlynol—

(i)

y diwrnod y cwblhawyd y datblygiad i raddau helaeth, a

(ii)

y dyddiad y digwyddodd y toriad neu’r methiant i gydymffurfio.

(3)

Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw, yn ystod y cyfnod o 4 blynedd perthnasol—

(a)

hysbysiad gwybodaeth wedi ei roi o dan adran 111, neu

(b)

cais am waharddeb wedi ei wneud o dan adran 122.

(4)

Ystyr “y cyfnod estynedig” yw’r cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau ag—

(a)

y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad gwybodaeth, os yw is-adran (3)(a) yn gymwys;

(b)

dyddiad y cais am y waharddeb, os yw is-adran (3)(b) yn gymwys;

(c)

y diweddarach (neu’r diweddaraf) o’r dyddiadau hynny, os yw paragraffau (a) a (b) o is-adran (3) yn gymwys.