RHAN 7GORFODI

Troseddau

103Datblygu heb gydsyniad seilwaith

(1)

Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn cynnal, neu’n peri cynnal, datblygiad y mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar ei gyfer ar adeg pan na fo cydsyniad seilwaith mewn grym mewn cysylltiad â’r datblygiad.

(2)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.