RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Effaith gorchmynion cydsyniad seilwaith

101Digolledu mewn achos pan fo amddiffyniad o awdurdodiad statudol yn gymwys

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os ceir, yn rhinwedd adran 100, neu orchymyn cydsyniad seilwaith, amddiffyniad o awdurdodiad statudol mewn achos sifil neu droseddol am niwsans mewn cysylltiad ag unrhyw waith awdurdodedig.

(2)

Ystyr “gwaith awdurdodedig” yw—

(a)

datblygiad y rhoddir cydsyniad seilwaith ar ei gyfer;

(b)

unrhyw beth arall a awdurdodir drwy orchymyn cydsyniad seilwaith.

(3)

Rhaid i berson sy’n cynnal unrhyw waith awdurdodedig, neu y cynhelir unrhyw waith awdurdodedig ar ei ran, ddigolledu unrhyw berson y mae cynnal y gwaith yn cael effaith niweidiol ar ei dir.

(4)

Rhaid atgyfeirio anghydfod ynghylch a yw digollediad yn daladwy o dan is-adran (3), neu ynghylch swm y digollediad, i’r Uwch Dribiwnlys.

(5)

Mae is-adran (2) o adran 10 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) (“Deddf 1965”) (cyfyngu ar ddigolledu) yn gymwys i is-adran (3) o’r adran hon fel y mae’n gymwys i’r adran honno.

(6)

Rhaid i unrhyw reol neu egwyddor a gymhwysir i’r dehongliad o adran 10 o Ddeddf 1965 gael ei chymhwyso i’r dehongliad o is-adran (3) o’r adran hon (gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol).

(7)

Mae Rhan 1 o Ddeddf Digollediad Tir 1973 (p. 26) (digollediad am ddibrisiant yng ngwerth tir gan ffactorau ffisegol a achosir gan ddefnydd o waith cyhoeddus) yn gymwys mewn perthynas â gwaith awdurdodedig fel pe bai—

(a)

cyfeiriadau yn y Rhan honno at unrhyw “public works” yn gyfeiriadau at waith awdurdodedig;

(b)

cyfeiriadau yn y Rhan honno at “the responsible authority” yn gyfeiriadau at y person y mae’r gorchymyn seilwaith yn cael effaith er ei fudd am y tro;

(c)

adrannau 1(6) a 17 wedi eu hepgor.

(8)

Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n cael yr effaith o ddileu neu addasu cymhwysiad unrhyw un neu ragor o is-adrannau (1) i (7).