RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH
Effaith gorchmynion cydsyniad seilwaith
100Niwsans: awdurdodiad statudol
(1)
Mae’r is-adran hon yn rhoi awdurdodiad statudol i—
(a)
cynnal datblygiad y rhoddir cydsyniad seilwaith ar ei gyfer;
(b)
gwneud unrhyw beth arall a awdurdodir drwy orchymyn cydsyniad seilwaith.
(2)
Ni roddir awdurdodiad statudol o dan is-adran (1) ond at y diben o ddarparu amddiffyniad mewn achos sifil neu droseddol am niwsans.
(3)
Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb a wneir mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith.