(1)Mae adeiladu cyfleusterau harbwr yn brosiect seilwaith arwyddocaol—
(a)os bydd y cyfleusterau harbwr (ar ôl eu hadeiladu) yn gyfan gwbl yng Nghymru, yn ardal forol Cymru, neu yn y naill a’r llall,
(b)os na fydd y cyfleusterau harbwr (ar ôl eu hadeiladu) yn borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, nac yn ffurfio rhan o borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, ac
(c)os disgwylir i’r cyfleusterau harbwr (ar ôl eu hadeiladu) allu trin llwytho neu ddadlwytho y swm perthnasol o ddeunydd y flwyddyn o leiaf.
(2)Mae addasu cyfleusterau harbwr yn brosiect seilwaith arwyddocaol—
(a)os yw’r cyfleusterau harbwr yn gyfan gwbl yng Nghymru, yn ardal forol Cymru, neu yn y naill a’r llall,
(b)os nad yw’r cyfleusterau harbwr yn borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, nac yn ffurfio rhan o borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, ac
(c)os disgwylir mai effaith yr addasiad yw cynyddu swm y deunydd y mae’r cyfleusterau yn gallu trin ei lwytho neu ei ddadlwytho y swm perthnasol y flwyddyn o leiaf.
(3)“Y swm perthnasol” yw—
(a)yn achos cyfleusterau ar gyfer llongau cynwysyddion, 50,000 UCU;
(b)yn achos cyfleusterau ar gyfer llongau gyrru i mewn ac allan, 25,000 o unedau;
(c)yn achos cyfleusterau ar gyfer llongau cargo o unrhyw ddisgrifiad arall, 500,000 o dunelli;
(d)yn achos cyfleusterau ar gyfer mwy nag un o’r mathau o longau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c), swm cyfatebol o ddeunydd.
(4)At ddibenion is-adran (3)(d), mae cyfleusterau yn gallu trin swm cyfatebol o ddeunydd os yw swm y ffracsiynau perthnasol yn un neu’n fwy.
(5)Y ffracsiynau perthnasol yw—
(a)i’r graddau y bo’r cyfleusterau ar gyfer llongau cynwysyddion—
Ffigwr 1
pan fo x y nifer o UCU y mae’r cyfleusterau yn gallu eu trin;
(b)i’r graddau y bo’r cyfleusterau ar gyfer llongau gyrru i mewn ac allan—
Ffigwr 2
pan fo y y nifer o unedau y mae’r cyfleusterau yn gallu eu trin;
(c)i’r graddau y bo’r cyfleusterau ar gyfer llongau cargo o unrhyw ddisgrifiad arall—
Ffigwr 3
pan fo z y nifer o dunelli o ddeunydd y mae’r cyfleusterau yn gallu eu trin.
(6)Yn yr adran hon—
ystyr “llong gargo” (“cargo ship”) yw llong a ddefnyddir i gludo cargo;
ystyr “llong gynwysyddion” (“container ship”) yw llong gargo sy’n cludo ei holl gargo neu’r rhan fwyaf o’i chargo mewn cynwysyddion;
ystyr “llong gyrru i mewn ac allan” (“roll-on roll-off ship”) yw llong a ddefnyddir i gludo cargo ar olwynion;
mae i “porthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl” yr ystyr a roddir i “reserved trust port” yn adran 32 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4);
ystyr “UCU” (“TEU”) yw uned cyfwerth ag ugain troedfedd;
ystyr “uned” (“unit”) mewn perthynas â llong gyrru i mewn ac allan yw unrhyw eitem o gargo ar olwynion (pa un a yw’n hunanyredig ai peidio).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 mewn grym ar 4.6.2024, gweler a. 147(1)(a)