RHAN 1PROSIECTAU SEILWAITH ARWYDDOCAOL

Trafnidiaeth

10Cyfleusterau harbwr

(1)

Mae adeiladu cyfleusterau harbwr yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)

os bydd y cyfleusterau harbwr (ar ôl eu hadeiladu) yn gyfan gwbl yng Nghymru, yn ardal forol Cymru, neu yn y naill a’r llall,

(b)

os na fydd y cyfleusterau harbwr (ar ôl eu hadeiladu) yn borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, nac yn ffurfio rhan o borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, ac

(c)

os disgwylir i’r cyfleusterau harbwr (ar ôl eu hadeiladu) allu trin llwytho neu ddadlwytho y swm perthnasol o ddeunydd y flwyddyn o leiaf.

(2)

Mae addasu cyfleusterau harbwr yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)

os yw’r cyfleusterau harbwr yn gyfan gwbl yng Nghymru, yn ardal forol Cymru, neu yn y naill a’r llall,

(b)

os nad yw’r cyfleusterau harbwr yn borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, nac yn ffurfio rhan o borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, ac

(c)

os disgwylir mai effaith yr addasiad yw cynyddu swm y deunydd y mae’r cyfleusterau yn gallu trin ei lwytho neu ei ddadlwytho y swm perthnasol y flwyddyn o leiaf.

(3)

“Y swm perthnasol” yw—

(a)

yn achos cyfleusterau ar gyfer llongau cynwysyddion, 50,000 UCU;

(b)

yn achos cyfleusterau ar gyfer llongau gyrru i mewn ac allan, 25,000 o unedau;

(c)

yn achos cyfleusterau ar gyfer llongau cargo o unrhyw ddisgrifiad arall, 500,000 o dunelli;

(d)

yn achos cyfleusterau ar gyfer mwy nag un o’r mathau o longau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c), swm cyfatebol o ddeunydd.

(4)

At ddibenion is-adran (3)(d), mae cyfleusterau yn gallu trin swm cyfatebol o ddeunydd os yw swm y ffracsiynau perthnasol yn un neu’n fwy.

(5)

Y ffracsiynau perthnasol yw—

(a)

i’r graddau y bo’r cyfleusterau ar gyfer llongau cynwysyddion—

x50,000math

Ffigwr 1

pan fo x y nifer o UCU y mae’r cyfleusterau yn gallu eu trin;

(b)

i’r graddau y bo’r cyfleusterau ar gyfer llongau gyrru i mewn ac allan—

y25,000math

Ffigwr 2

pan fo y y nifer o unedau y mae’r cyfleusterau yn gallu eu trin;

(c)

i’r graddau y bo’r cyfleusterau ar gyfer llongau cargo o unrhyw ddisgrifiad arall—

z500,000math

Ffigwr 3

pan fo z y nifer o dunelli o ddeunydd y mae’r cyfleusterau yn gallu eu trin.

(6)

Yn yr adran hon—

ystyr “llong gargo” (“cargo ship”) yw llong a ddefnyddir i gludo cargo;

ystyr “llong gynwysyddion” (“container ship”) yw llong gargo sy’n cludo ei holl gargo neu’r rhan fwyaf o’i chargo mewn cynwysyddion;

ystyr “llong gyrru i mewn ac allan” (“roll-on roll-off ship”) yw llong a ddefnyddir i gludo cargo ar olwynion;

mae i “porthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl” yr ystyr a roddir i “reserved trust port” yn adran 32 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4);

ystyr “UCU” (“TEU”) yw uned cyfwerth ag ugain troedfedd;

ystyr “uned” (“unit”) mewn perthynas â llong gyrru i mewn ac allan yw unrhyw eitem o gargo ar olwynion (pa un a yw’n hunanyredig ai peidio).