RHAN 1PROSIECTAU SEILWAITH ARWYDDOCAOL
Term allweddol
1Ystyr “prosiect seilwaith arwyddocaol”
Yn y Ddeddf hon, ystyr “prosiect seilwaith arwyddocaol” yw—
(a)
datblygiad a bennir yn y Rhan hon yn brosiect seilwaith arwyddocaol;
(b)
datblygiad a bennir mewn cyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 yn brosiect seilwaith arwyddocaol;
(c)
datblygiad a bennir yn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru o dan adran 60(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) yn brosiect seilwaith arwyddocaol.