Cofrestr o geisiadau a gwasanaethau cyn gwneud cais
Adran 128 – Cofrestr o geisiadau a gwasanaethau cyn gwneud cais
339.Mae adran 128 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o:
ceisiadau am gydsyniad seilwaith;
ceisiadau am wasanaethau cyn gwneud cais y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cael;
gwasanaethau cyn gwneud cais a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru.
340.Rhaid i Weinidogion Cymru gynnwys manylion yn y gofrestr o geisiadau dilys, ceisiadau am wasanaethau cyn gwneud cais a’r gwasanaethau cyn gwneud cais a ddarperir.
341.Rhaid cyhoeddi’r gofrestr (is-adran (5)).
342.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio gynnal cofrestr o geisiadau am gydsyniad seilwaith yn ei ardal, ceisiadau am wasanaethau cyn gwneud cais y mae’r awdurdod cynllunio wedi eu cael ac unrhyw wasanaethau cyn gwneud cais a ddarparwyd gan yr awdurdod (is-adran (6)).
343.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol hefyd i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnal cofrestr o geisiadau y mae’n eu cael am wasanaethau cyn gwneud cais, yn ogystal ag unrhyw wasanaethau cyn gwneud cais a ddarparwyd ganddo mewn cysylltiad â chais.
344.Mae is-adran (8) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch ffurf a cynnwys unrhyw gofrestr sy’n ofynnol ei chynnal gan yr adran neu odani a chaiff wneud darpariaeth arall mewn cysylltiad â mynediad gan y cyhoedd i ddogfennau sy’n ymwneud â chofnodion yn y gofrestr neu amseriad cofnodion.