RHAN 1ANSAWDD AER
PENNOD 1TARGEDAU CENEDLAETHOL
9Adrodd mewn perthynas ag adran 1
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, osod gerbron Senedd Cymru a chyhoeddi adroddiad ar yr ystyriaeth y maent wedi ei rhoi yn ystod y cyfnod hwnnw i osod targedau hirdymor o dan adran 1.
(2)
Rhaid i’r adroddiad, yn benodol, ymdrin â’r ystyriaeth a roddwyd yn ystod y cyfnod adrodd i osod targedau mewn perthynas â’r llygryddion a ganlyn—
(a)
amonia;
(b)
PM10;
(c)
osôn ar lefel y ddaear;
(d)
nitrogen deuocsid;
(e)
carbon monocsid;
(f)
sylffwr deuocsid.
(3)
Ond os yw rheoliadau wedi eu gwneud o dan adran 1 sy’n gosod targed mewn perthynas â llygrydd a grybwyllir yn is-adran (2), nid yw’r gofyniad yn yr is-adran honno bellach yn gymwys mewn perthynas â’r llygrydd hwnnw.
(4)
Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod adrodd” yw—
(a)
y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 1 yn dod i rym, a
(b)
pob cyfnod dilynol o 12 mis.