RHAN 1ANSAWDD AER

PENNOD 1TARGEDAU CENEDLAETHOL

8Cynnal safonau ansawdd aer

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â safon benodedig ar gyfer targed a bennir o dan adran 1 neu 2 pan fo—

(a)

y dyddiad penodedig ar gyfer y targed wedi ei gyrraedd, a

(b)

y safon benodedig ar gyfer y targed wedi ei chyflawni (boed erbyn y dyddiad penodedig neu erbyn dyddiad diweddarach).

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer eu pwerau o dan adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), sicrhau—

(a)

bod Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i gynnal y safon honno, a

(b)

bod gofynion adrodd ar waith mewn perthynas â chyflawni’r ddyletswydd honno.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i ddisodli’r safon a grybwyllir yn is-adran (2)(a) â safon is, neu i ddirymu’r safon, ond dim ond os ydynt wedi eu bodloni—

(a)

na fyddai cyrraedd y safon o unrhyw fudd sylweddol o gymharu â pheidio â chyrraedd y safon neu gyrraedd safon is, neu

(b)

yn sgil newidiadau mewn amgylchiadau ers i’r safon benodedig gael ei gosod neu ers iddi gael ei gostwng ddiwethaf, y byddai costau amgylcheddol, costau cymdeithasol, costau economaidd neu gostau eraill ei chyrraedd yn anghymesur â’r buddion.

(4)

Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 at unrhyw ddiben a grybwyllir yn is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru (yn ogystal â chydymffurfio ag adran 87(7B) o’r Ddeddf honno)—

(a)

ceisio cyngor oddi wrth bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol,

(b)

rhoi sylw i wybodaeth wyddonol ynghylch llygredd aer,

(c)

rhoi sylw i unrhyw ganllawiau mewn cysylltiad â’r llygrydd y mae’r safon yn gymwys iddo a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ganllawiau ansawdd aer byd-eang diweddaraf, a

(d)

gosod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad sy’n esbonio pam y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni fel y’i crybwyllir yn is-adran (3).