RHAN 1ANSAWDD AER
PENNOD 1TARGEDAU CENEDLAETHOL
7Monitro hynt cyflawni targedau
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu cael gafael ar ddata ynghylch ansawdd aer yng Nghymru y maent yn ystyried eu bod yn briodol i fonitro hynt cyflawni unrhyw dargedau a osodir o dan adran 1 neu 2.
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ddata a geir o dan is-adran (1) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.