RHAN 1ANSAWDD AER
PENNOD 1TARGEDAU CENEDLAETHOL
6Adolygu targedau
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu targedau o dan adrannau 1 a 2 yn unol â’r adran hon.
(2)
Wrth gynnal adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
ceisio cyngor gan bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol, a
(b)
rhoi sylw i wybodaeth wyddonol ynghylch llygredd aer.
(3)
Os yw targed o dan adran 1 neu 2 mewn cysylltiad â llygrydd y mae canllawiau wedi eu cyhoeddi ar ei gyfer gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ganllawiau ansawdd aer byd-eang diweddaraf, rhaid i Weinidogion Cymru, wrth gynnal adolygiad o’r targed, roi sylw i’r canllawiau mewn cysylltiad â’r llygrydd hwnnw.
(4)
Ar ôl cynnal adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad ynghylch y camau, os oes rhai, y maent yn bwriadu eu cymryd o dan adran 1 neu 2 mewn perthynas â phob targed o ganlyniad i’r adolygiad.
(5)
Pan fo datganiad yn darparu nad yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu cymryd unrhyw gamau o dan adrannau 1 neu 2 mewn perthynas â tharged, rhaid i’r datganiad gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
(6)
Rhaid cwblhau’r adolygiad cyntaf cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodir y targed cyntaf (pa un ai o dan adran 1 neu 2).
(7)
Rhaid cwblhau adolygiadau dilynol cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr adolygiad blaenorol.
(8)
Mae adolygiad wedi ei gwblhau pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod y datganiad gerbron Senedd Cymru a’i gyhoeddi.