Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024

5Adrodd ar dargedauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i reoliadau o dan adran 1 neu 2 bennu dyddiad adrodd ar gyfer unrhyw darged a osodir o dan yr adran honno.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, ar y dyddiad adrodd neu cyn hynny, osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad sy’n cynnwys yr wybodaeth ofynnol ynghylch y targed.

(3)Yr wybodaeth ofynnol ynghylch targed yw (fel sy’n briodol)—

(a)bod y targed wedi ei gyflawni,

(b)nad yw’r targed wedi ei gyflawni, neu

(c)nad yw Gweinidogion Cymru ar hyn o bryd yn gallu canfod pa un a yw’r targed wedi ei gyflawni, y rhesymau dros hynny a’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd er mwyn canfod pa un a yw’r targed wedi ei gyflawni.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad nad yw targed wedi ei gyflawni, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir y datganiad, osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, adroddiad.

(5)Rhaid i’r adroddiad—

(a)esbonio pam nad yw’r targed wedi ei gyflawni, a

(b)nodi’r camau y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cymryd, neu’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd, i sicrhau y cyflawnir y safon benodedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(6)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu canfod pa un a yw targed wedi ei gyflawni, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir y datganiad, osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad pellach sy’n cynnwys yr wybodaeth ofynnol.

(7)Mae is-adrannau (3) i (6) yn gymwys i ddatganiadau pellach o dan is-adran (6) fel y maent yn gymwys i ddatganiad o dan is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 5 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)