RHAN 1ANSAWDD AER
PENNOD 1TARGEDAU CENEDLAETHOL
5Adrodd ar dargedau
(1)
Rhaid i reoliadau o dan adran 1 neu 2 bennu dyddiad adrodd ar gyfer unrhyw darged a osodir o dan yr adran honno.
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru, ar y dyddiad adrodd neu cyn hynny, osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad sy’n cynnwys yr wybodaeth ofynnol ynghylch y targed.
(3)
Yr wybodaeth ofynnol ynghylch targed yw (fel sy’n briodol)—
(a)
bod y targed wedi ei gyflawni,
(b)
nad yw’r targed wedi ei gyflawni, neu
(c)
nad yw Gweinidogion Cymru ar hyn o bryd yn gallu canfod pa un a yw’r targed wedi ei gyflawni, y rhesymau dros hynny a’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd er mwyn canfod pa un a yw’r targed wedi ei gyflawni.
(4)
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad nad yw targed wedi ei gyflawni, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir y datganiad, osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, adroddiad.
(5)
Rhaid i’r adroddiad—
(a)
esbonio pam nad yw’r targed wedi ei gyflawni, a
(b)
nodi’r camau y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cymryd, neu’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd, i sicrhau y cyflawnir y safon benodedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(6)
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu canfod pa un a yw targed wedi ei gyflawni, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir y datganiad, osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad pellach sy’n cynnwys yr wybodaeth ofynnol.
(7)
Mae is-adrannau (3) i (6) yn gymwys i ddatganiadau pellach o dan is-adran (6) fel y maent yn gymwys i ddatganiad o dan is-adran (2).