4Effaith targedauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—
(a)bod targedau a osodir o dan adran 1 yn cael eu cyflawni, a
(b)bod targedau ansawdd aer PM2.5 yn cael eu cyflawni.
(2)Nid oes dim yn y Bennod hon, heblaw am adran 8, yn cyfyngu ar bŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 87 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) (pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas ag asesu neu reoli ansawdd aer).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 4 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)