RHAN 1ANSAWDD AER

PENNOD 1TARGEDAU CENEDLAETHOL

4Effaith targedau

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)

bod targedau a osodir o dan adran 1 yn cael eu cyflawni, a

(b)

bod targedau ansawdd aer PM2.5 yn cael eu cyflawni.

(2)

Nid oes dim yn y Bennod ho‍n, heblaw am adran 8, yn cyfyngu ar bŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 87 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) (pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas ag asesu neu reoli ansawdd aer).