3Y broses o osod targedauLL+C
(1)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 1 neu 2, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ceisio cyngor gan bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol, a
(b)rhoi sylw i wybodaeth wyddonol ynghylch llygredd aer.
(2)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 1 neu 2 sy’n gosod neu’n diwygio targed mewn cysylltiad â llygrydd penodol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw ganllawiau ar gyfer y llygrydd hwnnw a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ganllawiau ansawdd aer byd-eang diweddaraf.
(3)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 1 neu 2 sy’n gosod neu’n diwygio targed, rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni y gellir cyflawni’r targed neu’r targed diwygiedig.
(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan adran 1 neu 2 sy’n dirymu neu’n gostwng targed (y “targed presennol”) onid ydynt wedi eu bodloni—
(a)na fyddai cyflawni’r targed presennol o unrhyw fudd sylweddol o gymharu â pheidio â chyflawni’r targed neu gyflawni targed is, neu
(b)yn sgil newidiadau mewn amgylchiadau ers gosod y targed presennol neu ei ddiwygio ddiwethaf, y byddai costau amgylcheddol, costau cymdeithasol, costau economaidd neu gostau eraill cyflawni’r targed yn anghymesur â’r buddion.
(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 1 neu 2 sy’n dirymu neu’n gostwng targed, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad sy’n esbonio pam y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni fel y’i crybwyllir yn is-adran (4).
(6)Mae rheoliadau yn gostwng targed os ydynt, i unrhyw raddau—
(a)yn gosod safon is yn lle’r safon benodedig, neu
(b)yn pennu dyddiad diweddarach yn lle’r dyddiad penodedig.
(7)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 ddirymu’r targed ansawdd aer sydd wedi ei osod i gydymffurfio ag is-adran (2) o’r adran honno (ond cânt ei ddiwygio yn unol â’r adran hon).
(8)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 2 ddirymu targed ansawdd aer PM2.5 (ond cânt ei ddiwygio yn unol â’r adran hon).
(9)At ddibenion y Bennod hon, mae targed wedi ei gyflawni os yw’r safon benodedig wedi ei chyrraedd erbyn y dyddiad penodedig.
(10)Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau sy’n ofynnol gan adran 1(2) gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(11)Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau sy’n gosod targed ansawdd aer PM2.5 gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 3 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)