Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024

29RheoliadauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys—

(a)pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)pŵer i wneud—

(i)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(ii)darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(4)Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 1;

(b)adran 2;

(c)adran 25(7);

(d)adran 26(3).

(5)Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 28 sy’n addasu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol.

(6)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)Deddf gan Senedd Cymru;

(b)Mesur gan y Cynulliad;

(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.‍

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 29 mewn grym ar 15.2.2024, gweler a. 30(1)