RHAN 3CYFFREDINOL
29Rheoliadau
(1)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys—
(a)
pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;
(b)
pŵer i wneud—
(i)
darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;
(ii)
darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(3)
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(4)
Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—
(a)
adran 1;
(b)
adran 2;
(c)
adran 25(7);
(d)
adran 26(3).
(5)
Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 28 sy’n addasu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol.
(6)
Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.
(7)
Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)
Deddf gan Senedd Cymru;
(b)
Mesur gan y Cynulliad;
(c)
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.