RHAN 3CYFFREDINOL
28Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol etc.
(1)
Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—
(a)
darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;
(b)
darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys y Ddeddf hon).