26Dyletswydd i roi sylw i strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddauLL+C
(1)Rhaid i’r personau a ganlyn roi sylw i’r polisïau yn y strategaeth a gyhoeddir o dan adran 25 wrth arfer unrhyw swyddogaeth o natur gyhoeddus a allai effeithio ar seinweddau yng Nghymru—
(a)awdurdodau lleol yng Nghymru;
(b)awdurdodau cyhoeddus Cymreig perthnasol.
(2)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol” yw person a ddynodir yn unol ag is-adran (3) yn awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddynodi person yn awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol os (a dim ond os) yw’r person hwnnw yn “devolved Welsh authority” o fewn ystyr adran 157A(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)y person y cynigir ei ddynodi, a
(b)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 26 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(h)