RHAN 2SEINWEDDAU

Strategaeth seinweddau genedlaethol

25Strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddau

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi strategaeth sy’n cynnwys eu polisïau mewn cysylltiad ag ases‍u, rheoli a dylunio seinweddau yng Nghymru.

(2)

Rhaid i’r strategaeth gynnwys polisïau i asesu‍ llygredd sŵn a’i reoli’n effeithiol.

(3)

Rhaid i Weinidogion Cymru gadw eu polisïau mewn cysylltiad â seinweddau o dan adolygiad.

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru addasu’r strategaeth o bryd i’w gilydd.

(5)

Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r strategaeth ac, os yw’n briodol, ei haddasu—

(a)

o fewn 5 mlynedd i gyhoeddi’r strategaeth, a

(b)

o fewn pob cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhaodd Gweinidogion Cymru eu hadolygiad diweddaraf o dan yr is-adran hon.

(6)

Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth lunio neu adolygu’r strategaeth—

(a)

rhoi sylw i—

(i)

gwybodaeth wyddonol sy’n berthnasol i seinweddau, a

(ii)

y mapiau sŵn strategol diweddaraf a fabwysiadwyd o dan reoliad 23 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2629);

(b)

ymgynghori â—

(i)

Corff Adnoddau Naturiol Cymru,

(ii)

pob awdurdod lleol yng Nghymru,

(iii)

pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42),

(iv)

pob ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006,

(v)

pob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (o fewn ystyr Rhan 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)),

(vi)

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru,

(vii)

Trafnidiaeth Cymru, ac

(viii)

y cyhoedd.

(7)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon at ddiben newid y cyfnod y mae rhaid iddynt adolygu’r strategaeth ynddo.

(8)

Os yw Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi strategaeth sy’n bodloni gofynion is-adrannau (1) a (2) cyn i’r adran hon ddod i rym, mae’r strategaeth honno i’w thrin fel y strategaeth a luniwyd ac a gyhoeddwyd o dan is-adran (1) (ac nid yw is-adran (6) yn gymwys i lunio’r strategaeth).

(9)

Yn yr adran hon ac adran 26, ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.