xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi strategaeth sy’n cynnwys eu polisïau mewn cysylltiad ag asesu, rheoli a dylunio seinweddau yng Nghymru.
(2)Rhaid i’r strategaeth gynnwys polisïau i asesu llygredd sŵn a’i reoli’n effeithiol.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gadw eu polisïau mewn cysylltiad â seinweddau o dan adolygiad.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru addasu’r strategaeth o bryd i’w gilydd.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r strategaeth ac, os yw’n briodol, ei haddasu—
(a)o fewn 5 mlynedd i gyhoeddi’r strategaeth, a
(b)o fewn pob cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhaodd Gweinidogion Cymru eu hadolygiad diweddaraf o dan yr is-adran hon.
(6)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth lunio neu adolygu’r strategaeth—
(a)rhoi sylw i—
(i)gwybodaeth wyddonol sy’n berthnasol i seinweddau, a
(ii)y mapiau sŵn strategol diweddaraf a fabwysiadwyd o dan reoliad 23 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2629);
(b)ymgynghori â—
(i)Corff Adnoddau Naturiol Cymru,
(ii)pob awdurdod lleol yng Nghymru,
(iii)pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42),
(iv)pob ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006,
(v)pob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (o fewn ystyr Rhan 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)),
(vi)Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru,
(vii)Trafnidiaeth Cymru, ac
(viii)y cyhoedd.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon at ddiben newid y cyfnod y mae rhaid iddynt adolygu’r strategaeth ynddo.
(8)Os yw Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi strategaeth sy’n bodloni gofynion is-adrannau (1) a (2) cyn i’r adran hon ddod i rym, mae’r strategaeth honno i’w thrin fel y strategaeth a luniwyd ac a gyhoeddwyd o dan is-adran (1) (ac nid yw is-adran (6) yn gymwys i lunio’r strategaeth).
(9)Yn yr adran hon ac adran 26, ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 25 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(h)