Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024

Valid from 31/01/2025

11Hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arnoLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

Ar ôl adran 10 o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (dccc 7) (dyletswydd i arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf i hyrwyddo teithio llesol) mewnosoder—

10AGweinidogion Cymru yn hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno yng Nghymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad ynghylch y camau y maent yn cynnig eu cymryd o ran cyflawni eu dyletswydd o dan is-adran (1).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi’r datganiad cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adran hon ddod i rym, a

(b)parhau i adolygu’r datganiad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r datganiad ar unrhyw adeg, ac os ydynt yn gwneud hynny rhaid iddynt gyhoeddi’r datganiad ar ei ffurf ddiwygiedig.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd sy’n pennu pa gamau y maent wedi eu cymryd yn ystod y cyfnod hwnnw o ran cyflawni eu dyletswydd o dan is-adran (1).

(6)Yn is-adran (5), ystyr “cyfnod adrodd” yw—

(a)y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r adran hon yn dod i rym, a

(b)pob cyfnod dilynol o 3 blynedd.

(7)Nid yw is-adran (5) yn atal Gweinidogion Cymru rhag cyhoeddi adroddiadau ychwanegol sy’n pennu’r camau y maent wedi eu cymryd o ran cyflawni eu dyletswydd o dan is-adran (1).

10BAwdurdodau lleol ac awdurdodau eraill yn hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno

(1)Rhaid i awdurdodau lleol gymryd camau i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno yn eu hardaloedd.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn cyflwyno map rhwydwaith integredig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo o dan adran 4(9)(c), rhaid iddo hefyd gyhoeddi adroddiad sy’n pennu pa gamau y mae wedi eu cymryd o ran cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) yn ystod—

(a)yn achos yr adroddiad cyntaf sy’n ofynnol gan yr is-adran hon, y cyfnod sy’n dechrau pan fydd is-adran (1) yn dod i rym ac sy’n dod i ben pan gyflwynir y map, a

(b)yn achos pob adroddiad dilynol, y cyfnod ers iddo gyhoeddi adroddiad o dan yr is-adran hon ddiwethaf.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol—

(a)gosod dyletswydd ar unrhyw awdurdod cyhoeddus a bennir yn y rheoliadau i gymryd camau i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod gyhoeddi adroddiadau, mewn cysylltiad â chyfnodau a bennir yn y rheoliadau, ynghylch y camau y mae wedi eu cymryd o ran cyflawni ei ddyletswydd.

(4)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (3) ond pennu awdurdod cyhoeddus os yw’r awdurdod yn awdurdod Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn adran 157A(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(5)Cyn pennu awdurdod cyhoeddus mewn rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod ynghylch y cynnig.

(6)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (3) yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(7)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan is-adran (3) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

10CCanllawiau i awdurdodau ynghylch eu swyddogaethau o dan adran 10B

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch cyflawni dyletswyddau’r awdurdodau o dan adran 10B.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau hefyd i unrhyw awdurdod cyhoeddus a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 10B(3) ynghylch cyflawni dyletswyddau’r awdurdod o dan y rheoliadau.

(3)Cyn rhoi neu ddiwygio canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)yr awdurdod neu’r awdurdodau y mae’r canllawiau yn ymwneud ag ef neu â hwy, a

(b)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(4)Rhaid i awdurdod y rhoddir canllawiau iddo o dan yr adran hon roi sylw iddynt wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 10B neu, yn ôl y digwydd, reoliadau a wneir o dan yr adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(3)