Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024

1Targedau ansawdd aer: cyffredinolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod targedau hirdymor mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud ag ansawdd aer yng Nghymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru arfer y pŵer yn is-adran (1) er mwyn gosod targed hirdymor mewn cysylltiad ag un o’r llygryddion a ganlyn—

(a)amonia;

(b)PM10;

(c)osôn ar lefel y ddaear;

(d)nitrogen deuocsid;

(e)carbon monocsid;

(f)sylffwr deuocsid.

(3)Rhaid i darged a osodir o dan yr adran hon—

(a)pennu safon i’w chyflawni, y mae rhaid gallu ei mesur yn wrthrychol, a

(b)pennu dyddiad erbyn pryd y mae’r safon i’w chyflawni.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch sut y mae mesur y mater y gosodir targed mewn cysylltiad ag ef.

(5)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon sy’n gosod y targed sy’n ofynnol o dan is-adran (2) bennu bod y targed wedi ei osod i gydymffurfio â’r is-adran honno.

(6)Mae targed yn “targed hirdymor” os yw’r dyddiad penodedig o leiaf 10 mlynedd ar ôl y dyddiad y gosodir y targed arno.

(7)Mae targed o dan yr adran hon wedi ei osod pan ddaw’r rheoliadau sy’n ei osod i rym.

(8)Yn y Bennod hon—

(a)ystyr “PM10” yw deunydd gronynnol sydd â diamedr aerodynamig nad yw’n fwy na 10 o ficrometrau;

(b)ystyr y “safon benodedig” a’r “dyddiad penodedig”, mewn perthynas â tharged a osodir o dan yr adran hon, yw’r safon a’r dyddiad a bennir o dan is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)