RHAN 1ANSAWDD AER

PENNOD 1TARGEDAU CENEDLAETHOL

1Targedau ansawdd aer: cyffredinol

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod targedau hirdymor mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud ag ansawdd aer yng Nghymru.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru arfer y pŵer yn is-adran (1) er mwyn gosod targed hirdymor mewn cysylltiad ag un o’r llygryddion a ganlyn—

(a)

amonia;

(b)

PM10;

(c)

osôn ar lefel y ddaear;

(d)

nitrogen deuocsid;

(e)

carbon monocsid;

(f)

sylffwr deuocsid.

(3)

Rhaid i darged a osodir o dan yr adran hon—

(a)

pennu safon i’w chyflawni, y mae rhaid gallu ei mesur yn wrthrychol, a

(b)

pennu dyddiad erbyn pryd y mae’r safon i’w chyflawni.

(4)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch sut y mae mesur y mater y gosodir targed mewn cysylltiad ag ef.

(5)

Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon sy’n gosod y targed sy’n ofynnol o dan is-adran (2) bennu bod y targed wedi ei osod i gydymffurfio â’r is-adran honno.

(6)

Mae targed yn “targed hirdymor” os yw’r dyddiad penodedig o leiaf 10 mlynedd ar ôl y dyddiad y gosodir y targed arno.

(7)

Mae targed o dan yr adran hon wedi ei osod pan ddaw’r rheoliadau sy’n ei osod i rym.

(8)

Yn y Bennod hon—

(a)

ystyr “PM10” yw deunydd gronynnol sydd â diamedr aerodynamig nad yw’n fwy na 10 o ficrometrau;

(b)

ystyr y “safon benodedig” a’r “dyddiad penodedig”, mewn perthynas â tharged a osodir o dan yr adran hon, yw’r safon a’r dyddiad a bennir o dan is-adran (3).