Search Legislation

Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024

Newidiadau dros amser i: PENNOD 1

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) pennod yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024, PENNOD 1. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

PENNOD 1LL+CTARGEDAU CENEDLAETHOL

1Targedau ansawdd aer: cyffredinolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod targedau hirdymor mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud ag ansawdd aer yng Nghymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru arfer y pŵer yn is-adran (1) er mwyn gosod targed hirdymor mewn cysylltiad ag un o’r llygryddion a ganlyn—

(a)amonia;

(b)PM10;

(c)osôn ar lefel y ddaear;

(d)nitrogen deuocsid;

(e)carbon monocsid;

(f)sylffwr deuocsid.

(3)Rhaid i darged a osodir o dan yr adran hon—

(a)pennu safon i’w chyflawni, y mae rhaid gallu ei mesur yn wrthrychol, a

(b)pennu dyddiad erbyn pryd y mae’r safon i’w chyflawni.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch sut y mae mesur y mater y gosodir targed mewn cysylltiad ag ef.

(5)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon sy’n gosod y targed sy’n ofynnol o dan is-adran (2) bennu bod y targed wedi ei osod i gydymffurfio â’r is-adran honno.

(6)Mae targed yn “targed hirdymor” os yw’r dyddiad penodedig o leiaf 10 mlynedd ar ôl y dyddiad y gosodir y targed arno.

(7)Mae targed o dan yr adran hon wedi ei osod pan ddaw’r rheoliadau sy’n ei osod i rym.

(8)Yn y Bennod hon—

(a)ystyr “PM10” yw deunydd gronynnol sydd â diamedr aerodynamig nad yw’n fwy na 10 o ficrometrau;

(b)ystyr y “safon benodedig” a’r “dyddiad penodedig”, mewn perthynas â tharged a osodir o dan yr adran hon, yw’r safon a’r dyddiad a bennir o dan is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)

2Targedau ansawdd aer: deunydd gronynnolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau osod o leiaf un targed (“targed ansawdd aer PM2.5”) mewn cysylltiad â’r lefel gymedrig flynyddol o PM2.5 mewn aer amgylchynol yng Nghymru.

(2)Caiff targed ansawdd aer PM2.5 fod yn darged hirdymor ond nid oes angen iddo fod felly.

(3)Yn yr adran hon, ystyr PM2.5 yw deunydd gronynnol sydd â diamedr aerodynamig nad yw’n fwy na 2.5 o ficrometrau.‍

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod “aer amgylchynol” wedi ei ddiffinio at ddibenion pob targed ansawdd aer PM2.5 (a chaiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth wahanol ar gyfer targedau gwahanol at ddibenion yr is-adran hon).

(5)Mae adran 1(3) i(4) a (6) i (8) yn gymwys i dargedau ansawdd aer PM2.5 ac i reoliadau o dan yr adran hon fel y mae’n gymwys i dargedau a osodir o dan adran 1 ac i reoliadau o dan yr adran honno.

(6)Yn y Bennod hon, ystyr “targed ansawdd aer PM2.5” yw targed a osodir o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)

3Y broses o osod targedauLL+C

(1)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 1 neu 2, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ceisio cyngor gan bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol, a

(b)rhoi sylw i wybodaeth wyddonol ynghylch llygredd aer.

(2)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 1 neu 2 sy’n gosod neu’n diwygio targed mewn cysylltiad â llygrydd penodol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw ganllawiau ar gyfer y llygrydd hwnnw a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ganllawiau ansawdd aer byd-eang diweddaraf.

(3)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 1 neu 2 sy’n gosod neu’n diwygio targed, rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni y gellir cyflawni’r targed neu’r targed diwygiedig.

(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan adran 1 neu 2 sy’n dirymu neu’n gostwng targed (y “targed presennol”) onid ydynt wedi eu bodloni—

(a)na fyddai cyflawni’r targed presennol o unrhyw fudd sylweddol o gymharu â pheidio â chyflawni’r targed neu gyflawni targed is, neu

(b)yn sgil newidiadau mewn amgylchiadau ers gosod y targed presennol neu ei ddiwygio ddiwethaf, y byddai costau amgylcheddol, costau cymdeithasol, costau economaidd neu gostau eraill cyflawni’r targed yn anghymesur â’r buddion.

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 1 neu 2 sy’n dirymu neu’n gostwng targed, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad sy’n esbonio pam y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni fel y’i crybwyllir yn is-adran (4).

(6)Mae rheoliadau yn gostwng targed os ydynt, i unrhyw raddau—

(a)yn gosod safon is yn lle’r safon benodedig, neu

(b)yn pennu dyddiad diweddarach yn lle’r dyddiad penodedig.

(7)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 ddirymu’r targed ansawdd aer sydd wedi ei osod i gydymffurfio ag is-adran (2) o’r adran honno (ond cânt ei ddiwygio yn unol â’r adran hon).

(8)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 2 ddirymu targed ansawdd aer PM2.5 (ond cânt ei ddiwygio yn unol â’r adran hon).

(9)At ddibenion y Bennod hon, mae targed wedi ei gyflawni os yw’r safon benodedig wedi ei chyrraedd erbyn y dyddiad penodedig.

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau sy’n ofynnol gan adran 1(2) gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(11)Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau sy’n gosod targed ansawdd aer PM2.5 gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)

4Effaith targedauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod targedau a osodir o dan adran 1 yn cael eu cyflawni, a

(b)bod targedau ansawdd aer PM2.5 yn cael eu cyflawni.

(2)Nid oes dim yn y Bennod ho‍n, heblaw am adran 8, yn cyfyngu ar bŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 87 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) (pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas ag asesu neu reoli ansawdd aer).

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)

5Adrodd ar dargedauLL+C

(1)Rhaid i reoliadau o dan adran 1 neu 2 bennu dyddiad adrodd ar gyfer unrhyw darged a osodir o dan yr adran honno.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, ar y dyddiad adrodd neu cyn hynny, osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad sy’n cynnwys yr wybodaeth ofynnol ynghylch y targed.

(3)Yr wybodaeth ofynnol ynghylch targed yw (fel sy’n briodol)—

(a)bod y targed wedi ei gyflawni,

(b)nad yw’r targed wedi ei gyflawni, neu

(c)nad yw Gweinidogion Cymru ar hyn o bryd yn gallu canfod pa un a yw’r targed wedi ei gyflawni, y rhesymau dros hynny a’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd er mwyn canfod pa un a yw’r targed wedi ei gyflawni.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad nad yw targed wedi ei gyflawni, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir y datganiad, osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, adroddiad.

(5)Rhaid i’r adroddiad—

(a)esbonio pam nad yw’r targed wedi ei gyflawni, a

(b)nodi’r camau y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cymryd, neu’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd, i sicrhau y cyflawnir y safon benodedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(6)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu canfod pa un a yw targed wedi ei gyflawni, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir y datganiad, osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad pellach sy’n cynnwys yr wybodaeth ofynnol.

(7)Mae is-adrannau (3) i (6) yn gymwys i ddatganiadau pellach o dan is-adran (6) fel y maent yn gymwys i ddatganiad o dan is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)

6Adolygu targedauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu targedau o dan adrannau 1 a 2 yn unol â’r adran hon.

(2)Wrth gynnal adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ceisio cyngor gan bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol, a

(b)rhoi sylw i wybodaeth wyddonol ynghylch llygredd aer.

(3)Os yw targed o dan adran 1 neu 2 mewn cysylltiad â llygrydd y mae canllawiau wedi eu cyhoeddi ar ei gyfer gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ganllawiau ansawdd aer byd-eang diweddaraf, rhaid i Weinidogion Cymru, wrth gynnal adolygiad o’r targed, roi sylw i’r canllawiau mewn cysylltiad â’r llygrydd hwnnw.

(4)Ar ôl cynnal adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad ynghylch y camau, os oes rhai, y maent yn bwriadu eu cymryd o dan adran 1 neu 2 mewn perthynas â phob targed o ganlyniad i’r adolygiad.

(5)Pan fo datganiad yn darparu nad yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu cymryd unrhyw gamau o dan adrannau 1 neu 2 mewn perthynas â tharged, rhaid i’r datganiad gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(6)Rhaid cwblhau’r adolygiad cyntaf cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodir y targed cyntaf (pa un ai o dan adran 1 neu 2).

(7)Rhaid cwblhau adolygiadau dilynol cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr adolygiad blaenorol.

(8)Mae adolygiad wedi ei gwblhau pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod y datganiad gerbron Senedd Cymru a’i gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)

Rhagolygol

7Monitro hynt cyflawni targedauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu cael gafael ar ddata ynghylch ansawdd aer yng Nghymru y maent yn ystyried eu bod yn briodol i fonitro hynt cyflawni unrhyw dargedau a osodir o dan adran 1 neu 2.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ddata a geir o dan is-adran (1) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(3)

8Cynnal safonau ansawdd aerLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â safon benodedig ar gyfer targed a bennir o dan adran 1 neu 2 pan fo—

(a)y dyddiad penodedig ar gyfer y targed wedi ei gyrraedd, a

(b)y safon benodedig ar gyfer y targed wedi ei chyflawni (boed erbyn y dyddiad penodedig neu erbyn dyddiad diweddarach).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer eu pwerau o dan adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), sicrhau—

(a)bod Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i gynnal y safon honno, a

(b)bod gofynion adrodd ar waith mewn perthynas â chyflawni’r ddyletswydd honno.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i ddisodli’r safon a grybwyllir yn is-adran (2)(a) â safon is, neu i ddirymu’r safon, ond dim ond os ydynt wedi eu bodloni—

(a)na fyddai cyrraedd y safon o unrhyw fudd sylweddol o gymharu â pheidio â chyrraedd y safon neu gyrraedd safon is, neu

(b)yn sgil newidiadau mewn amgylchiadau ers i’r safon benodedig gael ei gosod neu ers iddi gael ei gostwng ddiwethaf, y byddai costau amgylcheddol, costau cymdeithasol, costau economaidd neu gostau eraill ei chyrraedd yn anghymesur â’r buddion.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 at unrhyw ddiben a grybwyllir yn is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru (yn ogystal â chydymffurfio ag adran 87(7B) o’r Ddeddf honno)—

(a)ceisio cyngor oddi wrth bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol,

(b)rhoi sylw i wybodaeth wyddonol ynghylch llygredd aer,

(c)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau mewn cysylltiad â’r llygrydd y mae’r safon yn gymwys iddo a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ganllawiau ansawdd aer byd-eang diweddaraf, a

(d)gosod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad sy’n esbonio pam y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni fel y’i crybwyllir yn is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 8 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(b)

9Adrodd mewn perthynas ag adran 1LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, osod gerbron Senedd Cymru a chyhoeddi adroddiad ar yr ystyriaeth y maent wedi ei rhoi yn ystod y cyfnod hwnnw i osod targedau hirdymor o dan adran 1.

(2)Rhaid i’r adroddiad, yn benodol, ymdrin â’r ystyriaeth a roddwyd yn ystod y cyfnod adrodd i osod targedau mewn perthynas â’r llygryddion a ganlyn—

(a)amonia;

(b)PM10;

(c)osôn ar lefel y ddaear;

(d)nitrogen deuocsid;

(e)carbon monocsid;

(f)sylffwr deuocsid.

(3)Ond os yw rheoliadau wedi eu gwneud o dan adran 1 sy’n gosod targed mewn perthynas â llygrydd a grybwyllir yn is-adran (2), nid yw’r gofyniad yn yr is-adran honno bellach yn gymwys mewn perthynas â’r llygrydd hwnnw.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod adrodd” yw‍—

(a)y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 1 yn dod i rym, a

(b)pob cyfnod dilynol o 12 mis.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 9 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(c)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources