1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 a basiwyd gan Senedd Cymru ar 28 Tachwedd 2023 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 14 Chwefror 2024. Fe’u lluniwyd gan Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.
2.Nod y Ddeddf yw gwella ansawdd ein hamgylchedd aer a lleihau effeithiau llygredd yn yr awyr ar iechyd pobl, byd natur, yr amgylchedd a’n heconomi.
3.Mae’r Ddeddf yn creu fframwaith i Weinidogion Cymru i osod targedau mewn perthynas ag ansawdd aer yng Nghymru ac yn diwygio deddfwriaeth ansawdd aer sydd eisoes yn bodoli mewn perthynas â rheoli ansawdd aer yn lleol, codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, atal segura llonydd a rheoli mwg. Mae’r Ddeddf yn creu dyletswyddau newydd i Weinidogion Cymru i gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth o’r risgiau i iechyd pobl a’r amgylchedd naturiol a achosir gan lygredd aer a ffyrdd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno. Mae’r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer gosod y ddyletswydd hon, drwy reoliadau, ar awdurdodau cyhoeddus eraill. Mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â sŵn a seinweddau, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion lunio strategaeth seinweddau genedlaethol.
4.Mae’r Ddeddf yn cynnwys 31 o adrannau a dwy Atodlen.
5.Mae’r Bennod hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer fframwaith penodol i osod, adolygu ac adrodd ar dargedau ansawdd aer cenedlaethol i Gymru, a fydd yn gymwys yn ychwanegol at ddeddfwriaeth arall yn y maes hwn. Bydd y targedau newydd yn darparu dull penodol o gyflawni canlyniadau hirdymor ac yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i osod targed mewn cysylltiad â’r lefel gymedrig flynyddol o PM2.5 mewn aer amgylchynol yng Nghymru ac i osod targed hirdymor pellach.
6.Mae is-adran (1) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n gosod targedau hirdymor mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud ag ansawdd aer yng Nghymru.
7.Mae is-adran (2) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i arfer y pŵer yn is-adran (1) i osod targed hirdymor ar gyfer un o’r llygryddion canlynol: amonia; PM10 (a ddiffinnir yn is-adran (8)), osôn ar lefel y ddaear, nitrogen deuocsid, carbon monocsid neu sylffwr deuocsid.
8.Rhaid i unrhyw darged a osodir o dan y rheoliadau hyn, o dan is-adran (3), bennu safon i’w chyflawni a dyddiad erbyn pryd y mae’r safon honno i’w chyflawni. Mae is-adran (8) yn esbonio y cyfeirir at y rhain fel y “safon benodedig” a’r “dyddiad penodedig” ym Mhennod 1 o’r Ddeddf (ac mae i’r cyfeiriadau hyn yr un ystyr yn y Nodiadau Esboniadol hyn).
9.Gallai safon gael ei phennu, er enghraifft, mewn perthynas â chrynodiad o lygrydd aer sy’n cael effeithiau niweidiol ar iechyd y cyhoedd, ecosystemau a bioamrywiaeth.
10.Rhaid gallu mesur y safon benodedig yn wrthrychol ac felly bydd angen i’r broses o osod targedau ystyried hyn. Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth yn y rheoliadau ynghylch sut y mae mesur y mater y gosodir y targed mewn cysylltiad ag ef. Bydd angen i’r dull o fesur y mater fod yn glir ac yn un y gellir ei gynnal dro ar ôl tro.
11.Mae is-adran (5) yn darparu bod rhaid i reoliadau sy’n gosod y targed sy’n ofynnol o dan is-adran (2) bennu bod y targed wedi ei osod i gydymffurfio â’r is-adran honno.
12.Mae is-adran (6) yn darparu bod targed yn “targed hirdymor” os yw’r dyddiad penodedig ar gyfer y targed hwnnw o leiaf 10 mlynedd ar ôl y dyddiad y gosodir y targed. Mae is-adran (7) yn esbonio bod targed wedi ei osod pan ddaw’r rheoliadau sy’n ei osod i rym.
13.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod o leiaf un targed, mewn rheoliadau, mewn cysylltiad â’r lefel gymedrig flynyddol o PM2.5 mewn aer amgylchynol yng Nghymru. Cyfeirir at y targed hwn fel “targed ansawdd aer PM2.5” yn yr adran hon ac ym Mhennod 1 o’r Ddeddf (ac mae i’r cyfeiriad hwn yr un ystyr yn y Nodiadau Esboniadol hyn).
14.Mae is-adran (2) yn darparu y caiff targed ansawdd aer PM2.5 fod yn darged hirdymor ond nid oes rhaid iddo fod felly.
15.Mae is-adran (3) yn diffinio PM2.5 fel deunydd gronynnol sydd â diamedr aerodynamig nad yw’n fwy na 2.5 o ficromedrau. Mae is-adran (4) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod “aer amgylchynol” wedi ei ddiffinio at ddiben pob targed PM2.5 ac y caiff rheoliadau o dan adran 2 gynnwys diffiniadau gwahanol ar gyfer targedau gwahanol.
16.Mae is-adran (5) yn cymhwyso is-adrannau (3) i (4) a (6) i (8) o adran 1 i reoliadau a wneir o dan yr adran hon: gweler uchod am esboniad o effaith y darpariaethau hyn. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, fod rhaid i reoliadau sy’n gosod targed ansawdd aer PM2.5 bennu’r safon i’w chyflawni (y mae rhaid gallu ei mesur yn wrthrychol) a rhaid iddynt bennu dyddiad erbyn pryd y mae’r safon i’w chyflawni.
17.Mae’r adran hon yn nodi’r broses y mae rhaid i Weinidogion Cymru ei dilyn cyn gosod, diwygio neu ddirymu targed ansawdd aer hirdymor o dan adran 1 a chyn gosod neu ddiwygio targed ansawdd aer PM2.5 o dan adran 2. Ni all targed a osodir i gydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 1(2) na tharged ansawdd aer PM2.5 gael ei ddirymu gan reoliadau a wneir o dan adran 1 neu 2 yn y drefn honno (gweler is-adrannau (7) ac (8)).
18.Yn unol ag is-adran (1), cyn gwneud rheoliadau o dan adrannau 1 neu 2 rhaid i Weinidogion Cymru: (a) ceisio cyngor gan bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol; a (b) rhoi sylw i wybodaeth wyddonol ynghylch llygredd aer. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, dystiolaeth ryngwladol ynghylch effeithiau llygredd aer ar iechyd a’r amgylchedd y dadansoddiadau economaidd, technegol a chymdeithasol, a dichonolrwydd cyflawni targedau.
19.O dan is-adran (2) cyn gwneud rheoliadau sy’n gosod neu’n diwygio targed mewn cysylltiad â llygrydd penodol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw ganllawiau ar gyfer y llygrydd hwnnw a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ganllawiau ansawdd aer byd-eang diweddaraf.
20.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod targedau y maent wedi eu bodloni y gellir eu cyflawni. Mae hyn yn gymwys i darged neu dargedau a osodir y tro cyntaf yr arferir y pwerau o dan adrannau 1 a 2 ac i unrhyw dargedau diwygiedig a osodir gan ddefnyddio’r pwerau hynny. Mae is-adran (9) yn darparu bod targed wedi ei gyflawni os yw’r safon benodedig wedi ei chyrraedd erbyn y dyddiad penodedig.
21.Mae is-adrannau (4) i (8) yn nodi’r broses y mae rhaid ei dilyn er mwyn dirymu neu ostwng targed a osodwyd o dan adran 1 neu 2. Mae is-adran (6) yn esbonio bod targed wedi ei ostwng os yw’n gosod safon is yn lle’r safon benodedig neu’n pennu dyddiad diweddarach yn lle’r dyddiad penodedig.
22.Yn unol ag is-adran (4), ni chaiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu ostwng targed presennol onid ydynt wedi eu bodloni (a) na fyddai cyflawni’r targed presennol o unrhyw fudd sylweddol o gymharu â pheidio â chyflawni’r targed neu gyflawni targed is, neu (b) yn sgil newidiadau mewn amgylchiadau ers gosod y targed presennol neu ei ddiwygio ddiwethaf y byddai costau amgylcheddol, costau cymdeithasol, costau economaidd neu gostau eraill cyflawni’r targed yn anghymesur â’r buddion.
23.Mae’n bosibl na fydd unrhyw fudd sylweddol i gyflawni targed. Er enghraifft, os y rhagwelwyd y byddai cyflawni’r targed o fudd i iechyd, a bod tystiolaeth wyddonol newydd bellach wedi dangos y gellir cyflawni’r un budd o ran iechyd drwy gyflawni targed diwygiedig neu darged hollol newydd. Fel arall, gall y dystiolaeth wyddonol newydd ddangos nad yw’r budd a ragwelwyd o ran iechyd yn ddisgwyliedig mwyach.
24.Gall newid mewn amgylchiadau ddigwydd, er enghraifft, am fod gostyngiadau nas rhagwelwyd mewn uchelgeisiau lleihau allyriadau rhyngwladol, a ragdybiwyd wrth osod y targedau, yn effeithio ar lefelau llygryddion yng Nghymru. Gall hyn arwain at leihau’n sylweddol allu camau a gymerir yng Nghymru i gyflawni targed, neu gynyddu’r costau cysylltiedig mewn modd anghymesur.
25.Cyn gostwng neu ddirymu targed, mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi a gosod gerbron Senedd Cymru ddatganiad sy’n esbonio pam y maent wedi eu bodloni bod o leiaf un o’r seiliau yn is-adran (4) wedi ei fodloni.
26.Mae is-adran (10) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod offeryn statudol drafft sy’n cynnwys y rheoliadau sy’n ofynnol gan adran 1(2) gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
27.Mae is-adran (11) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau sy’n gosod targed PM2.5 gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
28.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod targedau hirdymor a osodir o dan adran 1 a’r targedau ansawdd aer PM2.5 a osodir o dan adran 2 yn cael eu cyflawni.
29.Mae is-adran (2) yn egluro nad oes dim ym Mhennod 1 o’r Ddeddf, ac eithrio adran 8, yn cyfyngu ar bŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 87 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i wneud rheoliadau i asesu neu reoli ansawdd aer.
30.Mae adran 5 yn nodi’r dyletswyddau adrodd a osodir ar Weinidogion Cymru mewn perthynas â thargedau hirdymor a osodir o dan adran 1 a thargedau ansawdd aer PM2.5 a osodir o dan adran 2.
31.Mae is-adran (1) yn darparu bod rhaid i reoliadau o dan adrannau 1 a 2 bennu dyddiad adrodd ar gyfer unrhyw darged a osodir o dan y rheoliadau hynny. Ar y dyddiad adrodd ar gyfer pob targed neu cyn hynny, rhaid i Weinidogion Cymru osod un o blith tri datganiad gerbron Senedd Cymru (a chyhoeddi’r datganiad hwnnw):
Datganiad, o dan adran 5(3)(a), fod y targed wedi ei gyflawni.
Datganiad, o dan adran 5(3)(b), nad yw’r targed wedi ei gyflawni. O fewn 12 mis i osod y datganiad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, o dan is-adrannau (4) a (5), osod adroddiad gerbron Senedd Cymru yn esbonio pam na chafodd y targed ei gyflawni a pha gamau y maent wedi eu cymryd, neu pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd, i sicrhau y cyflawnir y safon benodedig o dan y targed hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd gyhoeddi’r adroddiad hwn.
Datganiad, o dan adran 5(3)(c), nad yw Gweinidogion Cymru yn gallu canfod pa un a yw’r targed wedi ei gyflawni. Rhaid i’r datganiad hwn hefyd esbonio pam nad yw Gweinidogion Cymru wedi gallu canfod hyn a’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd er mwyn gallu gwneud hynny. O fewn 6 mis i osod y datganiad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, o dan is-adran (6), osod datganiad pellach gerbron Senedd Cymru yn cadarnhau pa un a yw targed wedi ei gyflawni neu’n cadarnhau nad ydynt yn gallu canfod pa un a yw wedi ei gyflawni. Mae is-adrannau (3) i (6) yn gymwys i unrhyw ddatganiad pellach yn yr un ffordd ag y maent yn gymwys i ddatganiad a wneir o dan is-adran (2). Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd gyhoeddi’r datganiad pellach hwnnw.
32.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu targedau a osodir o dan adrannau 1 a 2.
33.O dan is-adran (2), wrth gynnal adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru geisio cyngor gan bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol. Rhaid iddynt hefyd roi sylw i wybodaeth wyddonol ynghylch llygredd aer. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, dystiolaeth ryngwladol ynghylch effeithiau llygredd aer ar iechyd a’r amgylchedd y dadansoddiadau economaidd, technegol a chymdeithasol, a dichonolrwydd cyflawni targedau.
34.O dan is-adran (3), wrth gynnal adolygiad o darged mewn cysylltiad â llygrydd y mae canllawiau wedi eu cyhoeddi ar ei gyfer gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ganllawiau ansawdd aer byd-eang diweddaraf, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r canllawiau mewn cysylltiad â’r llygrydd hwnnw.
35.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, ar ôl iddynt gynnal yr adolygiad, gyhoeddi a gosod gerbron Senedd Cymru ddatganiad ynghylch y camau, os oes rhai, y maent yn bwriadu eu cymryd o dan adran 1 neu adran 2 mewn perthynas â phob targed o ganlyniad i’r adolygiad.
36.Mae is-adran (5) yn darparu, pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu nad ydynt am gymryd unrhyw gamau mewn perthynas â tharged, fod rhaid i’r datganiad gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
37.Mae is-adrannau (6) a (7) yn nodi pa bryd y mae rhaid adolygu’r targedau a osodir o dan adrannau 1 a 2. Rhaid cwblhau’r adolygiad cyntaf o fewn cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodir y targed cyntaf. Rhaid cwblhau adolygiadau dilynol o fewn 5 mlynedd i’r diwrnod y cwblhawyd yr adolygiad blaenorol.
38.Mae is-adran (8) yn egluro bod adolygiad wedi’i gwblhau pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod y datganiad y cyfeirir ato yn is-adran (4) gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gyhoeddi.
39.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru drefnu cael gafael ar ddata ynghylch ansawdd aer yng Nghymru y maent yn ystyried eu bod yn briodol i fonitro hynt cyflawni unrhyw dargedau a osodir o dan adran 1 neu 2.
40.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ddata a geir o dan is-adran (1) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
41.Mae adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) (y cyfeirir ati fel “Deddf 1995” yn y Nodiadau Esboniadol hyn) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn cysylltiad ag asesu neu reoli ansawdd aer.
42.Mae adran 8 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r pŵer hwn gael ei arfer pan fo’r dyddiad penodedig ar gyfer targed a osodir o dan adran 1 neu 2 o’r Ddeddf hon wedi ei gyrraedd a bod y safon benodedig ar gyfer y targed wedi ei chyflawni (boed erbyn y dyddiad penodedig neu erbyn dyddiad diweddarach).
43.Mae adran 8(2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, o dan yr amgylchiadau hyn, arfer eu pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 87(1) o Ddeddf 1995 i sicrhau eu bod o dan ddyletswydd i gynnal y safon a gyflawnwyd a’i bod yn ofynnol iddynt adrodd ar gydymffurfedd â’r ddyletswydd honno.
44.O dan adran 8(3), gall Gweinidogion Cymru ddefnyddio eu pwerau i wneud rheoliadau o dan adran 87(1) o Ddeddf 1995 i ostwng y safon y mae rhaid ei chynnal, neu i ddirymu’r safon honno. Fodd bynnag, dim ond os ydynt wedi eu bodloni bod un o’r amodau yn adran 8(3)(a) neu (b) wedi ei fodloni y gallant wneud hynny.
45.Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 87(1) o Ddeddf 1995 i ostwng y safon y mae rhaid ei chynnal, neu i ddirymu’r safon honno, rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â’r gofynion yn adran 8(4)(a) i (d). Mae’r gofynion hyn yn ychwanegol at y gofyniad i ymgynghori o dan adran 87(7B) o Ddeddf 1995.
46.Mae adran 9 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, osod gerbron y Senedd a chyhoeddi adroddiad ar yr ystyriaeth y maent wedi ei rhoi yn ystod y cyfnod adrodd hwnnw i osod targedau hirdymor o dan adran 1.
47.Mae is-adran (4) yn esbonio mai’r cyfnodau adrodd yw’r cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 1 yn dod i rym a phob cyfnod dilynol o 12 mis.
48.Mae is-adran (2) yn rhestru’r llygryddion y mae rhaid i’r adroddiad ymdrin â hwy yn benodol, sef (a) amonia, (b) PM10 (fel y’i diffinnir yn adran 1(8)), (c) osôn ar lefel y ddaear, (d) nitrogen deuocsid; (e) carbon monocsid ac (f) sylffwr deuocsid.
49.Mae is-adran (3) yn darparu nad oes rhaid i’r adroddiad ymdrin â llygrydd os yw rheoliadau wedi eu gwneud o dan adran 1 mewn perthynas â’r llygrydd hwnnw.
50.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth yng Nghymru o’r risgiau i iechyd pobl a’r amgylchedd naturiol a achosir gan lygredd aer yn ogystal â ffyrdd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno.
51.Ymhlith yr enghreifftiau posibl o’r ffyrdd y gallai Gweinidogion Cymru gyflawni eu dyletswydd mae drwy annog, cefnogi a hybu mentrau llygredd aer lleol, neu drwy wella’r broses o ddarparu adnoddau llygredd aer ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ac adolygu’r wybodaeth gyfredol ynghylch ffynonellau llygredd aer a’r effeithiau ar iechyd a’r amgylchedd, gan ystyried hygyrchedd a gofynion grwpiau gwahanol.
52.Mae’r adran hon yn mewnosod tair adran newydd, 10A, 10B a 10C, yn Neddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (dccc 7) i greu dyletswyddau i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno. Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn yn cyfeirio at Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 fel “Deddf 2013”.
53.Mae adran newydd 10A o Ddeddf 2013 yn nodi dyletswyddau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â hyrwyddo teithio llesol. Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno yng Nghymru.
54.Mae is-adrannau (2) a (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad ynghylch y camau y maent yn cynnig eu cymryd o ran cyflawni eu dyletswydd o dan is-adran (1) cyn gynted â phosibl ar ôl i adran 10A ddod i rym a pharhau i adolygu’r datganiad.
55.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r datganiad ar unrhyw adeg a bod rhaid iddynt gyhoeddi’r datganiad ar ei ffurf ddiwygiedig.
56.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd (fel y'i diffinnir yn is-adran (6)) sy’n pennu’r camau y maent wedi eu cymryd o ran cyflawni eu dyletswydd o dan is-adran (1). Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyhoeddi adroddiadau ychwanegol (gweler is-adran (7)).
57.Mae is-adran (6) yn egluro mai’r “cyfnod adrodd” yw’r cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 10A yn dod i rym a phob cyfnod dilynol o 3 blynedd.
58.Mae adran newydd 10B o Ddeddf 2013 yn darparu ar gyfer hyrwyddo teithio llesol gan awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno.
59.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymryd camau i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno yn eu hardaloedd.
60.Mae is-adran (2) yn darparu, pan fo awdurdod lleol yn cyflwyno map rhwydwaith integredig i Weinidogion Cymru o dan adran 4(9)(c) o Ddeddf 2013, fod rhaid iddo hefyd gyhoeddi adroddiad sy’n pennu’r camau y mae wedi eu cymryd o ran cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) yn ystod y cyfnod sy’n dechrau pan fydd is-adran (1) yn dod i rym ac sy’n dod i ben pan gyflwynir y map neu, yn achos adroddiadau dilynol, y cyfnod ers iddo gyhoeddi adroddiad o dan yr is-adran hon ddiwethaf.
61.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, osod y dyletswyddau i gymryd camau i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno a chyhoeddi adroddiadau ar y camau a gymerwyd ar unrhyw awdurdod cyhoeddus a bennir yn y rheoliadau.
62.Mae is-adran (4) yn darparu na chaiff rheoliadau o dan is-adran (3) ond pennu awdurdod cyhoeddus os yw’n awdurdod Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn adran 157A(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). O dan is-adran (5) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag awdurdod cyn ei bennu mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (3).
63.Mae is-adrannau (6) a (7) yn gwneud darpariaeth i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol Senedd Cymru fod yn gymwys i reoliadau a wneir o dan is-adran (3) ac i’r pŵer i wneud rheoliadau o’r fath gynnwys pŵer i wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
64.Mae adran newydd 10C o Ddeddf 2013 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chanllawiau sydd i’w rhoi i awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill ynghylch eu swyddogaethau o dan adran newydd 10B.
65.Mae is-adrannau (1) a (2) yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i roi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch cyflawni dyletswyddau’r awdurdodau o dan adran 10B ac i roi canllawiau i unrhyw awdurdod cyhoeddus a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 10B(3) ynghylch cyflawni dyletswyddau’r awdurdod o dan y rheoliadau.
66.O dan is-adran (3), cyn rhoi neu ddiwygio canllawiau o dan adran 10C, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod neu’r awdurdodau y mae’r canllawiau yn ymwneud ag ef neu â hwy ac unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
67.Mae is-adran (4) yn gosod dyletswydd ar unrhyw awdurdod y rhoddir canllawiau iddo o dan adran 10C i roi sylw iddynt wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 10B neu, yn ôl y digwydd, o dan reoliadau a wneir o dan adran 10B.
68.Mae adran 80 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1) yn ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi strategaeth ansawdd aer genedlaethol.
69.Mae adran 80(4A) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yn nodi pa bryd y mae rhaid adolygu’r strategaeth ansawdd aer genedlaethol, ac, os yw’n briodol, ei haddasu.
70.Mae’n darparu bod rhaid i’r strategaeth, i bob pwrpas, gael ei hadolygu erbyn 1 Mai 2023 ac, wedi hynny, o fewn pob cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr adolygiad diweddaraf.
71.Mae is-adran (1) yn mewnosod is-adran newydd (8) yn adran 80 o Ddeddf 1995. Mae’n rhoi i Weinidogion Cymru bŵer newydd i wneud rheoliadau i ddiwygio’r cyfnod adolygu ar gyfer y strategaeth ansawdd aer genedlaethol a nodir yn adran 80(4A) o’r Ddeddf honno.
72.Mae is-adran (2) yn diwygio adran 87 o Ddeddf 1995 (rheoliadau at ddibenion Rhan 4) fel bod unrhyw reoliadau a wneir o dan y pŵer newydd yn adran 80(8) o Ddeddf 1995 yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol Senedd Cymru.
73.Mae’r adran hon yn diwygio adran 80 o Ddeddf 1995 drwy ddatgymhwyso’r gofynion ymgynghori a chyhoeddi mewn cysylltiad â’r strategaeth ansawdd aer genedlaethol yn is-adrannau (6) a (7) o ran Cymru a rhoi gofynion newydd yn is-adran newydd (10) yn eu lle.
74.Mae is-adran newydd (10) yn darparu, wrth adolygu’r strategaeth ansawdd aer genedlaethol, fod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, pob awdurdod lleol yng Nghymru, pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42), pob ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, pob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (o fewn ystyr Rhan 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)), Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Trafnidiaeth Cymru a’r cyhoedd.
75.Mae is-adran (1) yn mewnosod adran newydd 81B yn Neddf 1995.
76.Mae is-adran (1) o adran 81B yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru ac awdurdodau cyhoeddus Cymreig perthnasol roi sylw i’r polisïau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn y strategaeth ansawdd aer genedlaethol o dan adran 80 o Ddeddf 1995 wrth arfer unrhyw swyddogaeth o natur gyhoeddus a allai effeithio ar ansawdd aer yng Nghymru.
77.O dan is-adrannau (2) a (3) o adran 81B, mae person yn “relevant Welsh public authority” os yw wedi ei ddynodi felly drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
78.Fodd bynnag, ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi person yn “relevant Welsh public authority” onid yw’n bodloni’r diffiniad o “devolved Welsh authority” yn adran 157A(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae hyn yn golygu na chaiff person ei ddynodi onid yw’n awdurdod cyhoeddus (i) y mae ei swyddogaethau yn arferadwy o ran Cymru yn unig, a (ii) bod y swyddogaethau hynny yn rhai nad ydynt yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl yn gyfan gwbl neu’n bennaf. Mae awdurdod cyhoeddus wedi ei ddiffinio yn adran 157(A)(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel “a body, office or holder of an office that has functions of a public nature”.
79.Mae is-adran (4) o adran 81B yn darparu, cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3) o adran 81B, fod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r person y cynigir ei ddynodi yn “relevant Welsh public authority” a’r personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
80.Mae adran 14(2) yn diwygio adran 87(2) o Ddeddf 1995 (rheoliadau at ddibenion Rhan 4) i ychwanegu cyfeiriadau at “relevant Welsh public authority” lle y bo’n briodol yn yr is-adran honno.
81.Mae adran 14(3) yn diwygio adran 88 o Ddeddf 1995 (canllawiau at ddibenion Rhan 4). Mae’n mewnosod is-adrannau newydd (4) a (5) yn adran 88. Mae is-adran newydd (4) yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i awdurdodau cyhoeddus Cymreig perthnasol mewn perthynas â chyflawni unrhyw ddyletswyddau a osodir arnynt yn rhinwedd adran 81B o Ddeddf 1995 neu reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ran 4 o’r Ddeddf honno. Mae is-adran newydd (5) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus Cymreig perthnasol i roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran newydd (4) wrth arfer unrhyw bwerau neu gyflawni unrhyw ddyletswyddau y mae’r canllawiau yn ymwneud â hwy.
82.Mae is-adran (4) yn diwygio adran 91 o Ddeddf 1995 (dehongli Rhan 4) i ychwanegu cyfeiriad at awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol, gan ddatgan bod iddo’r ystyr a nodir yn adran 81B(2).
83.Mae adran 87 o Ddeddf 1995 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol sy’n gymwys i reoliadau a wneir at ddibenion Rhan 4 o’r Ddeddf honno.
84.Mae adran 12 o’r Ddeddf hon yn mewnosod is-adrannau newydd (7A) a (7B) yn adran 87 o Ddeddf 1995. Effaith hyn yw datgymhwyso’r gofynion ymgynghori yn is-adran (7) o ran Cymru a rhoi gofynion newydd yn eu lle.
85.Mae’r gofynion hyn yn darparu, cyn gwneud rheoliadau o dan Ran 4 o Ddeddf 1995, fod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, pob awdurdod lleol yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a’r cyhoedd.
86.O dan Ran 4 o Ddeddf 1995, mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyfrifol am reoli ansawdd aer ar lefel leol, drwy’r broses Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol. Mae’r broses hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol adolygu ac asesu ansawdd aer yn eu hardal yn gyfnodol, ac i ddynodi ardaloedd rheoli ansawdd aer a llunio cynlluniau gweithredu ar gyfer yr ardaloedd hynny lle y canfyddir bod ansawdd yr aer mewn perygl o fynd uwchlaw safonau ac amcanion o ran llygryddion.
87.Mae adran 82 o Ddeddf 1995 yn gwneud darpariaeth i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnal adolygiad o ansawdd yr aer, ac ansawdd tebygol yr aer yn y dyfodol o fewn y cyfnod perthnasol, yn ardal yr awdurdod. Pan fo awdurdod lleol yn cynnal adolygiad o’r fath, rhaid iddo hefyd asesu pa un a yw safonau ac amcanion ansawdd aer yn cael eu cyflawni neu’n debygol o gael eu cyflawni yn y cyfnod perthnasol yn ardal yr awdurdod.
88.Yn dilyn adolygiad o ansawdd aer, os yw’n ymddangos nad yw unrhyw safonau neu amcanion ansawdd aer yn cael eu cyflawni neu nad ydynt yn debygol o gael eu cyflawni yn y cyfnod a ragnodir mewn rheoliadau, rhaid i’r awdurdod lleol ddynodi unrhyw ran o’i ardal lle nad yw’r safonau hynny’n cael eu cyflawni yn ardal rheoli ansawdd aer neu’n ardal ddynodedig.
89.Mae adran 16 yn mewnosod is-adran newydd (1A) yn adran 82 o Ddeddf 1995. Effaith yr is-adran newydd hon yw ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnal adolygiad o ansawdd aer bob blwyddyn galendr, yn hytrach nag o bryd i’w gilydd.
90.Mae adran 17 yn mewnosod adran newydd 83B yn Neddf 1995. Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru, ac yn rhannol mae’n ailddeddfu adran 84 o Ddeddf 1995 (dyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru a’r Alban mewn perthynas ag ardaloedd dynodedig) a ddatgymhwysir mewn perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru gan adran 14(2) o’r Ddeddf.
91.Mae adran newydd 83B(2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol lunio cynllun gweithredu mewn perthynas ag ardal ddynodedig ac anfon copi at Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo. Mae adran 83B(8) yn darparu nad yw’r cynllun yn cael effaith oni bai ei fod wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
92.Mae adran 83B(3) yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun gweithredu nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau i sicrhau y cyflawnir safonau ac amcanion ansawdd aer yn yr ardal a gwmpesir gan y cynllun, a phennu, mewn perthynas â phob safon ac amcan, ddyddiad erbyn pryd y bydd yr awdurdod lleol yn anelu at gyflawni’r safon honno neu’r amcan hwnnw.
93.Mae adran 83B(4) yn darparu bod rhaid i gynllun gweithredu hefyd nodi sut y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu arfer ei swyddogaethau er mwyn sicrhau bod safonau ac amcanion ansawdd aer yn cael eu cynnal ar ôl iddynt gael eu cyflawni yn yr ardal y mae’r cynllun yn ymwneud â hi. Mae adran 83B(5) yn darparu bod rhaid i gynllun gweithredu bennu’r mesurau penodol sydd i’w cymryd er mwyn sicrhau bod safonau ac amcanion ansawdd aer yn cael eu cyflawni a’u cynnal yn yr ardal a gwmpesir gan y cynllun, a phennu dyddiad erbyn pryd y bydd pob mesur wedi ei gynnal.
94.Mae adran 83B(6) yn darparu y caiff awdurdod lleol lunio diwygiadau i gynllun gweithredu ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, rhaid i’r awdurdod ddiwygio cynllun gweithredu os yw’n ystyried bod angen rhoi mesurau pellach neu fesurau gwahanol ar waith er mwyn cyflawni’r safonau a’r amcanion ansawdd aer a nodir yn y cynllun erbyn y dyddiad a osodir o dan adran 83B(3)(b) ac er mwyn cynnal y safonau a’r amcanion hynny yn yr ardal a gwmpesir gan y cynllun.
95.Os bydd cynllun gweithredu yn cael ei ddiwygio, mae adran 83B(7) yn darparu bod rhaid i’r awdurdod lleol anfon copïau o’r diwygiadau at Weinidogion Cymru i’w cymeradwyo. O dan adran 83B(8), nid yw’r diwygiad i’r cynllun yn cael effaith oni bai ei fod wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
96.Mae adran 18 yn diwygio adran 85 o Ddeddf 1995. Mae adran 85(3) yn nodi o dan ba amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdod lleol i gymryd y camau a geir yn y cyfarwyddyd.
97.Mae adran 18 yn mewnosod paragraffau newydd (e) ac (f) yn adran 85(3). Mae adran newydd 85(3)(e) yn golygu os yw awdurdod lleol yng Nghymru wedi methu â chyflawni mesur a bennir mewn cynllun gweithredu erbyn y dyddiad a bennir yn y cynllun mewn perthynas â’r mesur hwnnw, gall Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod lleol i gymryd camau penodedig. Mae adran newydd 85(3)(f) yn golygu os nad yw safon neu amcan ansawdd aer wedi ei chyflawni neu wedi ei gyflawni, mewn ardal ddynodedig yng Nghymru, erbyn y dyddiad a bennir yn y cynllun gweithredu fel y dyddiad erbyn pryd y disgwylir i’r safon neu’r amcan gael ei chyflawni neu ei gyflawni, gall Gweinidogion Cymru, unwaith eto, gyfarwyddo’r awdurdod lleol perthnasol i gymryd camau penodedig.
98.Mae adran 19 yn mewnosod adrannau newydd 19E – 19H yn Rhan 3 o Ddeddf Aer Glân 1993(2) (p. 11) (y cyfeirir ati fel “Deddf 1993” yn y Nodiadau Esboniadol hyn). Mae Rhan 3 o Ddeddf 1993 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheoli ac atal llygredd aer a achosir gan fwg ac allyriadau cysylltiedig eraill.
99.Mae adran 18 o Ddeddf 1993 yn galluogi awdurdod lleol i wneud gorchymyn rheoli mwg yn datgan bod ei ardal gyfan, neu unrhyw ran ohoni, yn ardal rheoli mwg. O dan adran 19 o Ddeddf 1993, gall Gweinidogion Cymru, o dan amgylchiadau penodol, gyfarwyddo awdurdod lleol yng Nghymru i arfer ei bŵer i greu ardal rheoli mwg.
100.Mae adran newydd 19E o Ddeddf 1993 yn cymhwyso Atodlen 1A i Ddeddf 1993 i Gymru fel bod cosb sifil am allyrru mwg heb awdurdodiad mewn ardal rheoli mwg. Mae Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau pellach i Atodlen 1A i Ddeddf 1993 at y diben hwn. Mae’r troseddau yn adran 20 o Ddeddf 1993 wedi eu diddymu o ran Cymru (gweler paragraff 12 o Atodlen 1 i’r Ddeddf).
101.Mae adran newydd 19F(1)(a)-(c) o Ddeddf 1993 yn ei gwneud yn drosedd i gaffael unrhyw danwydd solet i’w ddefnyddio mewn adeilad, lle tân, boeler sefydlog neu gyfarpar diwydiannol sefydlog y mae gorchymyn rheoli mwg yng Nghymru yn gymwys iddo. Nid yw’r troseddau hyn yn gymwys i danwyddau awdurdodedig. O dan adran newydd 19G(3), caiff Gweinidogion Cymru gadw rhestr o danwyddau awdurdodedig a phan fyddant yn gwneud hynny, rhaid iddynt ei chyhoeddi.
102.Nid yw’r drosedd yn adran 19F(1)(b) yn gymwys os yw’r lle tân o dan sylw, ar yr adeg y caffaelir y tanwydd solet, ar y rhestr o leoedd tân esempt a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran newydd 19G(1). Ni chaiff Gweinidogion Cymu ond cynnwys lle tân ar y rhestr os ydynt wedi eu bodloni y gall y lle tân, o’i ddefnyddio mewn modd sy’n cydymffurfio ag unrhyw amodau a bennir yn y rhestr, gael ei ddefnyddio i losgi tanwydd solet anawdurdodedig heb gynhyrchu unrhyw fwg neu swm sylweddol o fwg.
103.Mae adran newydd 19F(1)(d) o Ddeddf 1993 yn ei gwneud yn drosedd i werthu tanwydd anawdurdodedig i’w ddanfon i adeilad y mae gorchymyn rheoli mwg yng Nghymru yn gymwys iddo neu i fangre sydd â boeler sefydlog neu gyfarpar diwydiannol sefydlog y mae gorchymyn rheoli mwg yng Nghymru yn gymwys iddo. Ni chyflawnir unrhyw drosedd os gall y person sy’n gwerthu’r tanwydd gadarnhau un o’r amddiffyniadau yn adran 19F(5).
104.Nid yw’r drosedd yn adran newydd 19F(1)(d) o Ddeddf 1993 yn gymwys i danwyddau awdurdodedig.
105.O dan adran newydd 19H(1)(b) o Ddeddf 1993, gall Gweinidogion Cymru atal dros dro neu lacio gweithrediad y troseddau yn adran 19F(1)(a)-(d) mewn perthynas ag ardal rheoli mwg benodol gyfan yng Nghymru, neu ran ohoni. Ni chaniateir iddynt wneud hynny onid yw’n ymddangos yn angenrheidiol neu’n hwylus i wneud hynny a’u bod yn gyntaf wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol a ddatganodd yr ardal rheoli mwg o dan sylw (oni bai bod ymgynghori yn anymarferol oherwydd natur frys y sefyllfa).
106.O dan adran 19H(1)(a), gall Gweinidogion Cymru hefyd atal dros dro neu lacio gweithrediad Atodlen 1A i Ddeddf 1993 mewn perthynas ag ardal rheoli mwg gyfan yng Nghymru, neu ran ohoni. Ni chaniateir iddynt wneud hynny onid yw’n ymddangos yn angenrheidiol neu’n hwylus i wneud hynny a’u bod yn gyntaf wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol a ddatganodd yr ardal rheoli mwg o dan sylw (oni bai bod ymgynghori yn anymarferol oherwydd natur frys y sefyllfa).
107.Mae’r adran hon yn diwygio Deddf 1993 i fewnosod adran newydd 28B sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan Ran 3 o Ddeddf 1993.
108.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 1 i’r Ddeddf, sy’n gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â rheoli mwg.
109.Mae’r rhan hon yn gwneud diwygiadau amrywiol i Atodlen 1A i Ddeddf 1993 i ganiatáu i’r gyfundrefn sancsiynau sifil a geir yn yr Atodlen honno fod yn gymwys o ran Cymru.
110.Mae’r Rhan hon yn hepgor darpariaethau yn Atodlen 2 i Ddeddf 1993 sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, o dan amgylchiadau penodol, ad-dalu perchenogion neu ddeiliaid hen anheddau preifat am wariant yr aed iddo i osgoi torri adran 20 o’r Ddeddf honno.
111.Mae’r Rhan hon yn gwneud diwygiadau eraill i Ddeddf 1993 o ganlyniad i’r ddarpariaeth a wneir gan Rannau 1 a 2 o’r Atodlen hon, a chan adrannau 19 ac 20 o’r Ddeddf hon.
112.Mae hefyd yn gwneud diwygiadau i Atodlenni 1 a 5 i Ddeddf 1993 mewn perthynas â chyhoeddi hysbysiadau ynghylch gorchmynion rheoli mwg gan awdurdodau lleol ar eu gwefannau.
113.Mae adran 22 o’r Ddeddf yn diwygio adran 167 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(3) (p. 38) (y cyfeirir ati fel “Deddf 2000” yn y Nodiadau Esboniadol hyn), sy’n nodi o dan ba amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru wneud cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd.
114.Mae adran 22(2)(a) yn diwygio adran 167(2) o Ddeddf 2000 fel nad yw’n gymwys ond i gynllun codi tâl a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ac nad yw’n gymwys mwyach i gynllun codi tâl a wneir gan Weinidogion Cymru.
115.Mae adran 22(2)(b) yn mewnosod is-adrannau newydd (3) a (4) yn adran 167 o Ddeddf 2000. Mae’r is-adrannau hyn yn gymwys i gynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd a wneir gan Weinidogion Cymru.
116.Mae is-adran (3) yn nodi o dan ba amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru wneud cynllun codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd. Mae’r amgylchiadau a nodir yn is-adran (3)(a) ac (c) yn debyg i’r amgylchiadau yr oedd Gweinidogion Cymru eisoes yn gallu gwneud cynlluniau codi tâl o’r fath oddi tanynt. Fodd bynnag, mae is-adran (3)(b) yn ychwanegu set newydd o amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru wneud cynllun codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd oddi tanynt: bellach caiff Gweinidogion Cymru wneud cynllun os diben y cynllun yw lleihau llygredd aer neu gyfyngu arno yng nghyffiniau’r ffordd honno. Mae is-adran newydd (4) yn darparu nad yw is-adran (3)(b) yn atal cynllun rhag cael ei wneud o dan is-adran (3)(c) i leihau llygredd aer neu gyfyngu arno.
117.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 2 i’r Ddeddf, sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer, ac mewn cysylltiad â, chymhwyso’r enillion net o gynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd a wneir at ddiben lleihau llygredd aer neu gyfyngu arno.
118.Mae Atodlen 12 i Ddeddf 2000 yn cynnwys darpariaeth ariannol ynghylch cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd.
119.Mae paragraffau 2 a 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 12 i Ddeddf 2000 mewn perthynas â’r newidiadau a wneir i adran 167 o’r Ddeddf honno gan adran 22 o’r Ddeddf.
120.Mae paragraff 13 o Atodlen 12 i Ddeddf 2000 yn gwneud darpariaeth ynghylch enillion cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd a wneir o dan adran 167(2) o Ddeddf 2000. Mae paragraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 2 i’r Ddeddf yn diwygio paragraff 13 o Atodlen 12 ac yn mewnosod paragraffau newydd 14 a 15 yn Atodlen 12 mewn perthynas â chynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 167(3) o Ddeddf 2000. Mae’r diwygiadau a’r darpariaethau newydd hyn yn golygu:
Os yw’r Ysgrifenydd Gwladol yn gwneud cynllun codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd o dan adran 167(2) o Ddeddf 2000, mae paragraff 13 o Atodlen 12 i’r Ddeddf honno yn gymwys i’r cynllun hwnnw.
Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud cynllun codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd o dan adran 167(3) o Ddeddf 2000 naill ai yn gyfan gwbl neu’n rhannol i leihau llygredd aer neu gyfyngu arno, mae paragraff 14 newydd o Atodlen 12 i Ddeddf 2000 yn gymwys i’r cynllun hwnnw. Mae hyn yn golygu, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y cynllun, fod rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad yn cadarnhau’r materion a restrir ym mharagraff newydd 14(2) o Atodlen 12 i Ddeddf 2000. Rhaid i’r datganiad hwn hefyd gael ei osod gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y cynllun.
Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud cynllun codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd o dan adran 167(3) o Ddeddf 2000 nad yw’n gyfan gwbl neu’n rhannol i leihau llygredd aer neu gyfyngu arno, mae paragraff newydd 15 o Atodlen 12 i Ddeddf 2000 yn gymwys i’r cynllun hwnnw. Mae’r ddarpariaeth hon yn cael yr un effaith â pharagraff 13 o Atodlen 12 i Ddeddf 2000 mewn perthynas â’r cynlluniau hynny.
121.Mae paragraff 7 o Atodlen 2 i’r Ddeddf yn diwygio adran 197 o Ddeddf 2000 er mwyn pennu gweithdrefnau’r Senedd sy’n gymwys i reoliadau a wneir o dan baragraff newydd 15 o Atodlen 12 i Ddeddf 2000. Mae’n gwneud hynny drwy nodi, yn llawn, y gofynion gweithdrefnol sy’n gymwys i reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno.
122.Mae adran 87 o Ddeddf 1995 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaethau amrywiol mewn rheoliadau at ddibenion Rhan 4 o’r Ddeddf honno. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth sy’n galluogi person i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am drosedd drwy dalu cosb y mae ei swm wedi ei ragnodi yn y rheoliadau (“cosb benodedig”).
123.Mae adran 24(2)(a) o’r Ddeddf yn diwygio ac yn mewnosod darpariaeth newydd yn adran 87(2)(o) o Ddeddf 1995 fel bod rheoliadau o dan adran 87 o Ddeddf 1995, yn achos trosedd segura llonydd a ragnodir gan Weinidogion Cymru, yn gallu, yn hytrach, ragnodi ystod ariannol y caniateir gosod swm y gosb o’i mewn.
124.Mae’r term “stationary idling offence” wedi ei ddiffinio yn adran newydd 87(2B) o Ddeddf 1995, a fewnosodir gan adran 24(2)(b) o’r Ddeddf.
125.Mae adran 24(3) yn diwygio Atodlen 11 (ansawdd aer: darpariaeth atodol) i Ddeddf 1995, i gynnwys swm sy’n dod o fewn ystod ariannol ragnodedig yn y diffiniad o gosb benodedig. Mae hefyd yn diwygio’r diffiniad o “fixed penalty notice” yn yr Atodlen honno i adlewyrchu’r newid hwn.
126.Cyn i’r Ddeddf hon fynd ar ei hynt, nid oedd unrhyw ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddau. Fodd bynnag, mae Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru lunio a mabwysiadu mapiau sŵn strategol a rhaid iddynt lunio cynlluniau gweithredu ar sŵn, ac mae’r Rheoliadau yn rhagnodi yr hyn y mae’n rhaid i’r mapiau a’r cynlluniau gweithredu hynny eu cynnwys. Mae’r darpariaethau yn y Ddeddf hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddau sy’n gallu ymgorffori’r mapiau sŵn strategol a’r cynlluniau gweithredu ar sŵn sy’n ofynnol o dan reoliadau 7 a 17 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006.
127.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi strategaeth genedlaethol sy’n cynnwys eu polisïau mewn perthynas ag asesu, rheoli a dylunio seinweddau yng Nghymru.
128.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r strategaeth gynnwys polisïau i asesu llygredd sŵn a’i reoli’n effeithiol. Yn unol ag is-adran (3), mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru gadw’r polisïau hyn o dan adolygiad. Yn unol ag is-adran (4), caiff Gweinidogion Cymru addasu’r strategaeth.
129.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu ac, os yw’n briodol, addasu’r strategaeth o fewn 5 mlynedd i’r dyddiad y cyhoeddir y strategaeth am y tro cyntaf ac, wedi hynny, o fewn pob cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr adolygiad diwethaf.
130.Mae is-adran (6) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, wrth adolygu neu lunio’r strategaeth, roi sylw i wybodaeth wyddonol sy’n berthnasol i seinweddau a’r mapiau sŵn strategol diweddaraf a fabwysiadwyd o dan reoliad 23 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006. Mae is-adran (6) hefyd yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, wrth lunio neu adolygu’r strategaeth, ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, pob awdurdod lleol yng Nghymru, pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, pob ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, pob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (o fewn ystyr Rhan 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015), Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Trafnidiaeth Cymru a’r cyhoedd.
131.Mae is-adran (7) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r cyfnodau adolygu y cyfeirir atynt yn is-adran (5).
132.Mae is-adran (8) yn darparu bod strategaeth bresennol sy’n bodloni gofynion is-adrannau (1) a (2) ar yr adeg y daw adran 25 i rym yn gallu cael ei thrin fel y strategaeth a luniwyd ac a gyhoeddwyd o dan is-adran (1). O dan yr amgylchiadau hyn, nid yw gofynion is-adran (6) yn gymwys mewn perthynas â llunio’r strategaeth.
133.Mae is-adran (9) yn diffinio awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon ac adran 26 fel cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.
134.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ac awdurdodau cyhoeddus Cymreig perthnasol roi sylw i’r polisïau yn y strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddau a gyhoeddir o dan adran 25 wrth arfer unrhyw swyddogaeth o natur gyhoeddus a allai effeithio ar seinweddau yng Nghymru.
135.O dan is-adrannau (2) a (3), mae person yn “awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol” os yw wedi ei ddynodi felly drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
136.Fodd bynnag, ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi person yn “awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol” onid yw’n bodloni’r diffiniad o “devolved Welsh authority” yn adran 157A(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae hyn yn golygu na chaiff person ei ddynodi onid yw’n awdurdod cyhoeddus (i) y mae ei swyddogaethau yn arferadwy o ran Cymru yn unig, a (ii) bod y swyddogaethau hynny yn rhai nad ydynt yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl yn gyfan gwbl neu’n bennaf. Mae awdurdod cyhoeddus wedi ei ddiffinio yn adran 157(A)(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel “a body, office or holder of an office that has functions of a public nature”.
137.Mae is-adran (4) yn darparu, cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), fod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r person y cynigir ei ddynodi yn “awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol” a’r personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
138.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i newid yr ysbeidiau y mae rhaid gwneud a mabwysiadu mapiau sŵn strategol arnynt o dan reoliad 7(2) o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 ac i newid y cyfnod y mae rhaid cynnal adolygiadau o gynlluniau gweithredu ar sŵn ynddo o dan reoliad 17(3)(b) o’r Rheoliadau hynny.
139.Mae’r adran hon yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliannol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed y maent yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani, gan gynnwys mewn perthynas â’r darpariaethau a geir yn y Ddeddf hon.
140.Mae’r adran hon yn esbonio sut y mae pwerau i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w harfer ac yn nodi’r weithdrefn gymwys i’w dilyn wrth wneud y rheoliadau hynny.
141.Mae’r adran hon yn nodi sut y mae darpariaethau’r Ddeddf hon yn dod i rym. Daw’r darpariaethau yn Rhan 3 o’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Daw adrannau 1-6, 8-10, 12-15, 22-27 ac Atodlen 2 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Daw darpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru.
142.Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.
143.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd ar:
Cyfnod | Dyddiad |
---|---|
Cyflwynwyd | 20 Mawrth 2023 |
Cam 1 - Dadl | 12 Medi 2023 |
Cam 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau | 11 Hydref 2023 |
Cam 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau | 21 Tachwedd 2023 |
Cam 4 Cymeradwywyd gan y Senedd | 28 Tachwedd 2023 |
Y Cydsyniad Brenhinol | 14 Chwefror 2024 |
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ran IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ran 3 o Ddeddf Aer Glân 1993 (p. 11) o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38) i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.