Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 3 - Cyffredinol

Adran 28 – Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol etc.

139.Mae’r adran hon yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliannol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed y maent yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani, gan gynnwys mewn perthynas â’r darpariaethau a geir yn y Ddeddf hon.

Adran 29 – Rheoliadau

140.Mae’r adran hon yn esbonio sut y mae pwerau i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w harfer ac yn nodi’r weithdrefn gymwys i’w dilyn wrth wneud y rheoliadau hynny.

Adran 30 – Dod i rym

141.Mae’r adran hon yn nodi sut y mae darpariaethau’r Ddeddf hon yn dod i rym. Daw’r darpariaethau yn Rhan 3 o’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Daw adrannau 1-6, 8-10, 12-15, 22-27 ac Atodlen 2 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Daw darpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru.

Adran 31 – Enw byr

142.Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.