Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 2 – Seinweddau.Strategaeth seinweddau genedlaethol

126.Cyn i’r Ddeddf hon fynd ar ei hynt, nid oedd unrhyw ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddau. Fodd bynnag, mae Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru lunio a mabwysiadu mapiau sŵn strategol a rhaid iddynt lunio cynlluniau gweithredu ar sŵn, ac mae’r Rheoliadau yn rhagnodi yr hyn y mae’n rhaid i’r mapiau a’r cynlluniau gweithredu hynny eu cynnwys. Mae’r darpariaethau yn y Ddeddf hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddau sy’n gallu ymgorffori’r mapiau sŵn strategol a’r cynlluniau gweithredu ar sŵn sy’n ofynnol o dan reoliadau 7 a 17 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006.

Adran 25 - Strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddau

127.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi strategaeth genedlaethol sy’n cynnwys eu polisïau mewn perthynas ag asesu, rheoli a dylunio seinweddau yng Nghymru.

128.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r strategaeth gynnwys polisïau i asesu llygredd sŵn a’i reoli’n effeithiol. Yn unol ag is-adran (3), mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru gadw’r polisïau hyn o dan adolygiad. Yn unol ag is-adran (4), caiff Gweinidogion Cymru addasu’r strategaeth.

129.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu ac, os yw’n briodol, addasu’r strategaeth o fewn 5 mlynedd i’r dyddiad y cyhoeddir y strategaeth am y tro cyntaf ac, wedi hynny, o fewn pob cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr adolygiad diwethaf.

130.Mae is-adran (6) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, wrth adolygu neu lunio’r strategaeth, roi sylw i wybodaeth wyddonol sy’n berthnasol i seinweddau a’r mapiau sŵn strategol diweddaraf a fabwysiadwyd o dan reoliad 23 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006. Mae is-adran (6) hefyd yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, wrth lunio neu adolygu’r strategaeth, ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, pob awdurdod lleol yng Nghymru, pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, pob ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, pob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (o fewn ystyr Rhan 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015), Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Trafnidiaeth Cymru a’r cyhoedd.

131.Mae is-adran (7) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r cyfnodau adolygu y cyfeirir atynt yn is-adran (5).

132.Mae is-adran (8) yn darparu bod strategaeth bresennol sy’n bodloni gofynion is-adrannau (1) a (2) ar yr adeg y daw adran 25 i rym yn gallu cael ei thrin fel y strategaeth a luniwyd ac a gyhoeddwyd o dan is-adran (1). O dan yr amgylchiadau hyn, nid yw gofynion is-adran (6) yn gymwys mewn perthynas â llunio’r strategaeth.

133.Mae is-adran (9) yn diffinio awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon ac adran 26 fel cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

Adran 26 – Dyletswydd i roi sylw i strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddau

134.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ac awdurdodau cyhoeddus Cymreig perthnasol roi sylw i’r polisïau yn y strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddau a gyhoeddir o dan adran 25 wrth arfer unrhyw swyddogaeth o natur gyhoeddus a allai effeithio ar seinweddau yng Nghymru.

135.O dan is-adrannau (2) a (3), mae person yn “awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol” os yw wedi ei ddynodi felly drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

136.Fodd bynnag, ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi person yn “awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol” onid yw’n bodloni’r diffiniad o “devolved Welsh authority” yn adran 157A(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae hyn yn golygu na chaiff person ei ddynodi onid yw’n awdurdod cyhoeddus (i) y mae ei swyddogaethau yn arferadwy o ran Cymru yn unig, a (ii) bod y swyddogaethau hynny yn rhai nad ydynt yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl yn gyfan gwbl neu’n bennaf. Mae awdurdod cyhoeddus wedi ei ddiffinio yn adran 157(A)(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel “a body, office or holder of an office that has functions of a public nature”.

137.Mae is-adran (4) yn darparu, cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), fod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r person y cynigir ei ddynodi yn “awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol” a’r personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Adran 27 – Pŵer i newid cylchoedd ar gyfer gwneud mapiau sŵn strategol ac adolygu cynlluniau gweithredu ar sŵn

138.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i newid yr ysbeidiau y mae rhaid gwneud a mabwysiadu mapiau sŵn strategol arnynt o dan reoliad 7(2) o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 ac i newid y cyfnod y mae rhaid cynnal adolygiadau o gynlluniau gweithredu ar sŵn ynddo o dan reoliad 17(3)(b) o’r Rheoliadau hynny.